Cyhuddo pedwar o losgi bwriadol yn dilyn tân mewn tŷ

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 01:25 fore Llun yn dilyn adroddiadau o dân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog.

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Mae'r pedwar sydd wedi'u cyhuddo - tri dyn 18, 19 a 23 oed a menyw 19 oed - i gyd yn dod o ardal Weston-super-Mare yn ne orllewin Lloegr, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Tan Glynrhedynog
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 01:25 fore Llun

Mae Auryn Gustar, 19, Storm Truman, 19, Connor Pitt, 23, ac Alfie Wheeler, 18, i gyd wedi eu cyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae Mr Wheeler hefyd wedi'i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Mae rhai pobl wedi cael eu symud o'u cartrefi yn dilyn y tân, gyda chanolfan orffwys wedi'i sefydlu i gefnogi'r rhai sydd wedi'u disodli, yn ôl Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Ychwanegodd y Cyngor fod tocynnau bwyd a thanwydd hefyd wedi cael eu darparu i'r rhai sydd wedi'u heffeithio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig