Traeth Pentywyn: Cofio canrif o gyflymder

Malcolm CampbellFfynhonnell y llun, Getty Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Malcolm Campbell yn ymwelydd rheolaidd â Thraeth Pentywyn yn ystod yr 1920au wrth iddo geisio torri recordiau'r byd am gyflymder ar dir

  • Cyhoeddwyd

Fis Gorffennaf, mae hi'n 100 mlynedd ers i Malcolm Campbell yrru dros gyflymder o 150mya ar hyd Traeth Pentywyn yn Sir Gâr yn ei gar Blue Bird.

Dr Owen Williams o Gyngor Sir Gâr sydd yn adrodd yr hanes ac yn egluro pam fod y traeth dal yn apelio i'r rhai sy'n caru cyflymder.

Pam Pentywyn?

100 mlynedd yn ôl, ar ddarn o arfordir Cymru sy'n cael ei ddisgrifio fel 'anialwch enfawr o dywod diffaith', newidiodd dyn, peiriant, ac eiliad o feiddgarwch pur, hanes.

Ar 25 Medi 1924, llywiodd Syr Malcolm Campbell ei gar Sunbeam, 'Blue Bird' i gyflymder syfrdanol o 146.16mya ar Draeth Pentywyn, gan dorri record cyflymder tir y byd, a gosod gwaddol canrif o hyd sy'n dal i swyno cariadon cyflymder ledled y byd.

Byddai Campbell yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol, ar 21 Gorffennaf 1925, i ddod y person cyntaf i dorri'r terfyn cyflymder tir o 150mya.

Traeth PentywynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Traeth llyfn, gwastad Pentywyn, sy'n estyn am saith milltir; y lleoliad perffaith i rasio ceir cyflym

Mae Traeth Pentywyn, sy'n ymestyn saith milltir ar hyd Bae Caerfyrddin, yn rhyfeddod daearegol unigryw.

Yn wastad, yn gadarn, ac yn llydan, mae'n cynnig yr amodau perffaith ar gyfer ymdrechion i dorri record cyflymder.

Roedd y tywod caled - wedi'i lyfnhau gan y llanw sy'n cilio ac yn ymestyn yn ddi-dor am filltiroedd - yn ddewis delfrydol, o'i gymharu â'r traciau rasio cyfyng, troellog fel Brooklands, a oedd erbyn y 1920au wedi dod yn rhy fyr ar gyfer y cyflymderau cynyddol oedd yn cael ei gyrraedd gan beirianwyr ceir a beiciau modur.

Dyma a ddenodd yr helwyr cyflymder. Gyda ffyrdd cyhoeddus wedi'u cyfyngu'n gyfreithiol i 20mya ar y pryd, roedd Pentywyn yn cynnig maes chwarae oedd heb ei reoleiddio, lle gallai dyn a pheiriant wthio ffiniau.

Geni chwedloniaeth Blue Bird

Marciodd dyfodiad Syr Malcolm Campbell i Bentywyn yn 1924 drobwynt.

Daeth ei gar, Blue Bird, a enwyd ar ôl drama a welodd yn Theatr Haymarket, yn eiconig.

Ar ôl gosod ei record cyflymder tir cyntaf yma, dychwelodd yn 1925 i dorri'r 150mya ac eto yn 1927 i wthio'r record i 174.22mya.

Malcolm Campbell yn Blue BirdFfynhonnell y llun, MacGregory/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm Campbell yn Blue Bird ar ôl iddo dorri'r 150mya ar 21 Gorffennaf 1925

Roedd y Blue Bird yn rhyfeddod yn ei gyfnod; roedd ganddo injan awyren a dyluniad sy'n awgrymu'r egwyddorion aerodynamig sydd i'w gweld o hyd mewn rasio heddiw.

Daeth ymdrechion i dorri record cyflymder tir yn newyddion mawr y dydd gyda help Campbell, a oedd yn ddyn carismataidd, yn fedrus ac yn gyfforddus â'r cyfryngau. Helpodd modelau tegan, cardiau sigaréts a gemau i gyffroi dychymyg y cyhoedd.

Ond byddai'r tywod yn fuan yn dyst drasiedi ochr-yn-ochr â buddugoliaeth.

Trychineb ar y traeth

Os daeth Campbell â hudolusrwydd, daeth y Cymro J.G. Parry Thomas â dygnwch a dyfeisgarwch.

Yn beiriannydd dawnus a chyn Brif Beiriannydd yn Leyland Motors, prynodd ac ailadeiladodd Thomas gar o'r enw'r Higham Special, gan ei drawsnewid yn beiriant a alwodd yn Babs.

Wedi'i ffitio ag injan awyrennau Liberty V12 27-litr ac yn pwyso bron i ddwy dunnell, roedd Babs yn fwystfil mecanyddol a oedd wedi ei adeiladu ar gyfer un peth: cyflymder.

Yn 1926, torrodd Parry Thomas record Campbell - nid unwaith, ond ddwywaith - gan daro cyflymderau o 169 a 171mya.

J.G. Parry Thomas yn ei gar, BabsFfynhonnell y llun, E Bacon/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Torrodd J.G. Parry Thomas y record byd gan gyrraedd cyflymder o 171mya, cyn cael ei ladd mewn ymgais i dorri'r record eto ym Mawrth 1927

Yn anffodus, bu trychineb yn ystod ei ymgais olaf ym mis Mawrth 1927. Gan deithio tua 170mya, cafodd Babs ddamwain, a lladdwyd Thomas.

Ef oedd y gyrrwr cyntaf i farw wrth geisio torri record cyflymder tir, a chladdwyd y car ar y traeth lle daeth y freuddwyd i ben.

Yn 1969, cafodd Babs ei dadorchuddio gan Owen Wyn Owen, darlithydd peirianneg o Fangor, a dreuliodd yr 16 mlynedd nesaf yn ei hatgyweirio yn ofalus.

BabsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Babs yn 1969 ac ôl cael ei godi o'i fedd ar draeth Pentywyn, lle cafodd ei gladdu yn 1927

Heddiw, mae Babs yn dychwelyd i Bentywyn o bryd i'w gilydd ac mae'n dal i fod yn atyniad i selogion modur ac ymwelwyr chwilfrydig.

Ar hyn o bryd mae Babs i'w weld yn yr Amgueddfa Cyflymder newydd sbon, sy'n edrych dros y tywod enwog, tan 28 Medi 2025.

Hanes yn parhau

Ni ddaeth stori Pentywyn i ben yn y 1920au. O'r 1930au hyd heddiw, mae'r traeth wedi parhau i fod yn lle i brofi terfynau.

Dyma oedd safle ymdrechion record gan ffigurau chwedlonol fel Guy Martin ac Idris Elba, a dorrodd record milltir hedfan Prydeinig hirhoedlog Campbell yn 2015 gyda chyflymder o 180mya.

Daeth Helen Lincoln Smith y fenyw gyflymaf yn y byd ar dywod yn 2017 ar 137.093mya. A hawliodd Zef Eisenberg, rasiwr ac entrepreneur, deitl y person cyflymaf ar Draeth Pentywyn ar ddwy olwyn ac hefyd ar bedair olwyn.

Mae'r traeth hefyd wedi gweld ymdrechion rhyfedd; yma y torrodd Kevin Nicks y record cyflymder tir ar gyfer sied.

Joe a Don WalesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rhai sydd wedi parhau â'r traddodiad o geisio torri recordiau cyflymder ar Draeth Pentywyn mae Don Wales, ŵyr Malcolm Campbell. Yma gyda'i fab, Joe, roedd y ddau yn rhan o ymgais (aflwyddiannus) yn 2011 i dorri record cyflymder, a hynny mewn car trydan o'r enw... Bluebird

Heddiw, mae Amgueddfa Cyflymder – rhan o deulu amgueddfeydd CofGâr yn Sir Gâr – yn adrodd hanes ymdrechion i dorri record cyflymder tir ym Mhentywyn.

Mae'r lleoliad yn canolbwyntio ar y bobl a luniodd chwedl y tywod, o enwau cyfarwydd fel Campbell i arwyr lleol llai adnabyddus a thorwyr recordiau modern.

Mae'r amgueddfa yn fwy na theyrnged i'r gorffennol, mae'n fan cychwyn i beirianwyr ac anturiaethwyr y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.