Dewi Bryn Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod

Bydd Dewi Bryn Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Bydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chyflwyno i Dewi Bryn Jones.
Mae'n derbyn y fedal am ei waith i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol Cymraeg.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd Dewi Bryn Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod yn Wrecsam ar brynhawn Iau, 7 Awst.
'Y wobr yn gwbl haeddiannol'
Mae Dewi Bryn Jones yn arwain tîm o ddatblygwyr meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae ei waith yn galluogi'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfrifiaduron ac wrth gyfathrebu'n ddigidol.
Mae'r dechnoleg hefyd yn cefnogi pobl anabl ac unigolion ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu'n Gymraeg.
Mae ei gyfraniad wedi arwain at ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg ysgrifennu, lleferydd a chyfieithu peirianyddol Cymraeg.
Dywedodd yr Athro Delyth Prys, cyn bennaeth yr uned dechnoleg fod y wobr yn "gwbl haeddiannol".
"Fuaswn yn mynd mor bell â dweud oni bai am gyfraniad Dewi, ni fyddai gennym feddalwedd Gymraeg heddiw," meddai.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cafodd Dewi Bryn Jones ei eni ym Mhwllheli ac ar ôl graddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerefrog, bu'n gweithio yng Nghaergrawnt, Zurich a Helsinki.
Yn y Ffindir, dechreuodd gyfieithu a lleoleiddio meddalwedd Netscape Navigator cyn dychwelyd i Gymru i weithio gyda Draig Technology Ltd, lle datblygodd y rhaglen To Bach.
Ers 2002, mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, gan arwain datblygiadau megis Cysill, Cysgeir, Y Porth Termau Cenedlaethol, a fersiynau digidol o eiriaduron Cymraeg.
Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw ym maes technoleg lleferydd, gan gynnwys creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu siarad, a datblygu'r ap Lleisiwr ar gyfer cleifion y GIG.
Fe wnaeth Dewi gyfuno'r dechnoleg hon i greu Macsen – y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg – ac mae wedi cyfrannu'n helaeth at brosiect Common Voice gan Mozilla.
Mae'n darlithio ar gwrs Meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi goruchwylio'r PhD cyntaf yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ef hefyd fu'n gyfrifol am ysgrifennu'r Llawlyfr Technolegau Iaith – y cyntaf o'i fath yn y Gymraeg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.