Ceisio atal 518 achos o gamddefnyddio croesfannau
- Cyhoeddwyd
Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) a chwmni Network Rail yn dechrau ymgyrch i geisio gwella diogelwch ar groesfannau rheilffordd ddydd Mercher.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 518 o achosion wedi eu cofnodi o gamddefnyddio croesfannau ar draws Cymru, ac mae pump o'r rheini wedi arwain at wrthdrawiadau.
Fe fydd Network Rail yn darparu fflyd o faniau ar gyfer yr ymgyrch, ond swyddogion BTP fydd ynddyn nhw. Mae gan un o'r cerbydau gamerâu cylch cyfyng a thechnoleg adnabod rhifau ceir (ANPR), ac maen nhw wedi'u cysylltu â Chyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
I ddechrau'r ymgyrch fe fydd faniau ar groesfan dwyrain Llanelli - mae'r ystadegau'n dangos mai hwn yw un o'r gwaethaf yng Nghymru gyda 58 o achosion o gamddefnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
'Peryglu bywydau'
Dywedodd Arolygydd Sean Boyle o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Er gwaethaf nifer o ddigwyddiadau diweddar sydd wedi cael llawer o sylw, mae'n anhygoel fod pobl yn barod i beryglu eu bywydau drwy anwybyddu signalau a chlychau rhybudd.
"Mae mwyafrif y damweiniau o ganlyniad i ddiffyg amynedd - peidio bod yn barod i aros a cheisio curo'r trên - pan fyddai disgwyl am 60 eiliad yn gallu osgoi difetha bywydau.
"Y peth allweddol i ni yw nid i erlyn, ond i atal ac addysgu. Rydym am geisio newid ymddygiad gyrwyr a cherddwyr sy'n camddefnyddio'r croesfannau.
"Er hynny dylai gyrwyr sy'n torri'r gyfraith gan beryglu eu bywydau eu hunain ac eraill fod yn sicr y byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i erlyn y rhai sy'n gyfrifol."
Ychwanegodd rheolwr diogelwch Network Rail, Tracey Young: "Mae'r faniau diogelwch symudol yn rhan o ymdrech ehangach i godi ymwybyddiaeth pobl o sut i ddefnyddio croesfannau rheilffordd yn ddiogel, a'r peryglon o'u camddefnyddio.
"Rydym yn deall bod aros wrth groesfan yn gallu bod yn rhwystredig, ond gall mynd drwy olau coch neu yrru o gwmpas y rhwystrau achosi mwy o oedi i bawb, ac yn waeth na hynny mi fedrwch chi gael pwyntiau ar eich trwydded neu achosi damwain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012