Prif Weinidog: 'cynllun treth incwm yn ddiwerth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau ei wrthwynebiad i'r model o ddatganoli treth incwm sydd ar gael ar hyn o bryd.
Roedd Carwyn Jones yn siarad mewn dadl yn y Cynulliad ar Fesur Drafft Cymru, fydd yn arwain at ddatganoli nifer o bwerau treth a benthyca.
Mae'r model treth incwm sydd wedi ei gynnig yn golygu y byddai rhaid i unrhyw newid i drethi gael ei wneud ar draws pob band, yn hytrach nag effeithio ar fandiau unigol yn unig.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae angen cynllun ar gyfer datganoli treth incwm yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n cefnogi hynny. Dydyn ni ddim yn dweud na ddylai treth incwm gael ei ddatganoli o gwbl, yn amlwg nid dyna'r achos.
"Ond mae rhwystrau sydd angen eu pasio. Mae'r fodel yn ddiwerth, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl."
Yr wythnos diwethaf roedd llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, Owen Smith, yn feirniadol iawn o gynlluniau i ddatganoli pwerau treth incwm, gan ddweud eu bod yn 'drap' gan y Ceidwadwyr.
Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi beirniadu'r Ceidwadwyr am anghytuno hefo'i gilydd.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi anghytuno hefo Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones am y model sy'n cael ei gynnig.
Dywedodd Mr Davies nad oedd yn ymarferol, tra bod Mr Jones wedi ei gefnogi.
Ddydd Mawrth, dywedodd cadeirydd y Grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad, Nick Ramsay, ei fod yn well cael rhywfaint o reolaeth dros dreth incwm, dan y model presennol, na dim pwerau o gwbl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014