Dynes 'wedi colli pob dim' mewn tân ym Mlaenau Ffestiniog

Y gwesty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi dweud na chafodd y tân yn Ngwesty Queens ei gynnau yn fwriadol

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes oedd yn arfer rhedeg gwesty - a gafodd ei ddinistrio gan dân - yn dweud ei bod wedi colli popeth yn y fflamau.

Roedd Angi Clinton yn arfer rhedeg Gwesty Queens ym Mlaenau Ffestiniog, ond mae hi bellach wedi colli ei chartref, ei heiddo a'i swydd.

Dywedodd y cwmni oedd yn berchen ar y gwesty ar y pryd eu bod wedi ceisio ei chefnogi, ond nad oedd ganddynt ddewis ond gwerthu'r adeilad i fuddsoddwr.

Mae nifer o bobl yn y dref yn galw am ailadeiladu ac ailagor y gwesty, fel bod modd iddo fod yn ganolfan i'r gymuned unwaith eto.

Angi Clinton
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa yn teimlo fel "breuddwyd ddrwg", medd Angi Clinton

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r safle toc wedi 11:00 ar 5 Gorffennaf a bu tua 40 o ddiffoddwyr yn gweithio am dros wyth awr i ddod â'r fflamau dan reolaeth.

Roedd yr holl westeion a staff wedi gallu gadael yn ddiogel ar ôl i larymau ganu.

Dyw achos y tân dal ddim yn glir, ond mae'r heddlu wedi dweud nad oedd wedi cael ei gynnau yn fwriadol.

Dywedodd Ms Clinton nad oedd hi ym Mlaenau Ffestiniog ar y pryd.

"Cefais alwad ffôn gan fy merch mewn panig gwirioneddol ac yn gweiddi: 'Mae'r Queens ar dân, mae'r Queens ar dân'."

Diffoddwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bu tua 40 o ddiffoddwyr yn gweithio am dros wyth awr i ddod â'r tân dan reolaeth

Dywedodd Ms Clinton mai'r flaenoriaeth oedd gwneud yn siŵr fod pawb yn ddiogel.

"Ers hynny mae bron yn teimlo fel nad yw'n real - ei fod yn freuddwyd ddrwg a dy fod yn mynd i ddeffro ohoni," meddai.

"Dwi wedi colli pob dim. Yr unig beth wnes i ddim ei golli oedd fy nghar a'r dillad roeddwn i'n eu gwisgo ar y pryd.

"Mae popeth sydd gen i - pethau personol, lluniau o'r gorffennol a phlentyndod, wedi mynd.

Ychwanegodd fod dau o'i phlant, sydd wedi tyfu i fyny, hefyd wedi colli pob dim.

"Collon ni ein swyddi, ein cartref a'n breuddwyd i gyd mewn un diwrnod."

Y safle

Mae Ms Clinton yn byw mewn llety dros dro a dywedodd nad oes gobaith ganddi o ddychwelyd i'r adeilad yr oedd hi'n arfer galw'n gartref.

Ychydig wythnosau ar ôl y tân, cafodd hi wybod fod y perchnogion, Admiral Taverns, wedi gwerthu'r adeilad.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, sydd â Blaenau Ffestiniog yn ei hetholaeth fod Admiral Taverns "wedi dangos diffyg dyletswydd gofal brawychus tuag at Angi Clinton a'i staff".

"Mae eu gweithredoedd wedi tanseilio ymddiriedaeth ac wedi anwybyddu effaith ddynol eu penderfyniadau busnes," meddai Ms Saville Roberts.

Dywedodd fod y gwesty yn "rhan hanfodol" o sector lletygarwch y dref, gan ddweud fod y gymuned yn haeddu gwybod pwy oedd yn berchen ar y gwesty.

Anogodd Ms Saville Roberts i'r perchnogion newydd ystyried adfer yr adeilad fel lleoliad arlwyo a lletygarwch.

'Ailfuddsoddi ddim yn gynaliadwy'

Cafodd BBC Cymru wybod enw'r cwmni a allai fod yn berchen ar Westy Queens bellach, ond ni wnaeth eu cyfarwyddwyr ateb llythyr yn gofyn iddynt gadarnhau a oedd ganddynt unrhyw gynlluniau ar gyfer yr adeilad.

Fe wnaeth Admiral Taverns gadarnhau "bod rhydd-daliad Gwesty Queens, Blaenau Ffestiniog, wedi'i werthu i fuddsoddwr profiadol mewn tafarndai o'r math yma".

"Yn dilyn adolygiad trylwyr o'n dewisiadau ar ôl y tân ym mis Gorffennaf 2025, daeth yn amlwg nad oedd ailfuddsoddi yn y safle yn gynaliadwy, a bod gwerthu'r eiddo yn cynrychioli'r ffordd fwyaf priodol ymlaen.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r trwyddedai i ddarparu cefnogaeth trwy gydol y cyfnod anodd hwn, ac wedi cysylltu â'r gwasanaeth tân a pheirianwyr strwythurol i sicrhau bod y safle'n parhau i fod yn ddiogel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig