Cwmni Pinewood yn agor stiwdio yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Daniel Craig fel James BondFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffilm ddiweddara' James Bond, Skyfall, ei ffilmio yn Pinewood yn Swydd Buckingham gyda Daniel Craig yn y brif ran

Bydd cwmni ffilmiau enwog Pinewood Studios yn agor safle newydd yng Nghymru.

Fe gyhoeddodd Carwyn Jones a'r Gweinidog Economi Edwia Hart y newyddion mewn cynhadledd yng Nghaerdydd fore Llun.

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni yw'r fenter, ac mae gobaith y bydd 2,000 o swyddi'n cael eu creu yn y pum mlynedd nesa'.

Fe fydd y stiwdio 180,000 troedfedd sgwâr yn cael ei hadeiladu yn yr hen Ganolfan Ynni yng Ngwynllŵg.

Yn ôl y llywodraeth, dylai'r cytundeb sicrhau bod £90 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru.

1,500 o ffilmiau

Mae Pinewood yn enwog am fod yn gartref i fwy na 1,500 o ffilmiau, yn cynnwys cyfres James Bond a'r ffilmiau 'Carry On'.

Meddai Carwyn Jones: "Ar ôl mwynhau gwylio'r gwobrau BAFTA neithiwr, gallaf innau ddatgelu heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gipio un o wobrau mwyaf y diwydiant ffilm a theledu.

Mae'r cytundeb hwn gyda Pinewood yn bluen fawr yn het Cymru.

Dywedodd: "Mae denu brand mor eiconig â Pinewood yn newyddion ardderchog i Gymru. Mae enw Pinewood yn gyfystyr â chynyrchiadau Prydeinig a rhyngwladol o safon fyd-eang, gan gynnwys ffilmiau James Bond, ac mae'n gartref i rai o'r ffilmiau mwyaf llwyddiannus erioed.

"Mae'r buddsoddiad uchel ei broffil hwn o werth economaidd mawr i Gymru, a bydd y bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Pinewood yn cynnig cyfle amhrisiadwy i hyrwyddo Cymru ledled y byd fel lleoliad heb ei ail ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu.

"Dyma enghraifft wych o'r ffordd yr ydyn ni'n gweithio i ddenu busnes i Gymru. Ni gysylltodd â Pinewood ar ôl clywed nad oedd digon o gapasiti stiwdio ganddynt, ac fe lwyddon ni i gipio'r cyfle i ddod â'r brand byd-enwog hwn i Gymru."

'Hyd at £30m'

Meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, oedd y gyfrifol am arwain taith fasnach i Los Angeles y llynedd i godi proffil Cymru yn Hollywood:

"Mae Pinewood yn cynrychioli'r gorau o ffilmiau Prydain. Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi hyd at £30m mewn prosiectau a sefydlir gan Pinewood i gynhyrchu rhagor o ffilm a theledu yng Nghymru.

"Mae hefyd yn agor y drws i ragor o fuddsoddiadau yn y dyfodol, gan gynnig mwy o gyfle i dyfu.

"Mae'r bartneriaeth hon yn newyddion gwych ac yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu'r economi drwy gefnogi'r sectorau allweddol sydd â'r potensial i greu swyddi a chyfoeth."

"Dros y deuddeg mis diwethaf, mae dau gynhyrchiad teledu mawr, uchel eu proffil wedi'u ffilmio yng Nghymru - Da Vinci's Demons ac Atlantis - a bydd y bartneriaeth hon â Pinewood yn siŵr o roi lle mwy amlwg eto i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol."