Unigrwydd yn effeithio pobl â chanser yn ôl ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil newydd gan Ipsos MORI yn datgelu am y tro cyntaf yr effaith drwg mae unigrwydd yn ei gael ar fywydau pobl sy'n byw gyda chanser.
Dywedodd Susan Morris, rheolwr cyffredinol Macmillan yng Nghymru bod unigrwydd yn cael effaith negyddol ar fywydau dros 19,200 o gleifion canser yng Nghymru.
Fe gymharwyd profiadau cleifion sy'n dweud eu bod yn teimlo'n unig ers cael eu diagnosis â'r rhai sydd ddim ac mae Macmillan yn dweud bod y gwahaniaethau'n drawiadol.
Problem sy'n tyfu
Meddai: "Mae'n ddigon anodd i bobl gael eu taro gan y newyddion ofnadwy fod canser arnyn nhw, heb orfod dioddef yr effeithiau ychwanegol sy'n dod yn sgîl bod yn unig. Mae tua un o bob chwech o'r rhai sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn dioddef unigrwydd o ganlyniad i'w salwch. "
Angen cymorth
"Mae hon yn broblem sy'n tyfu, wrth i ni ddisgwyl i nifer y bobl sy'n cael diagnosis canser yng Nghymru ddyblu o 120,000 i 240,000 yn y 20 mlynedd nesaf.
"O ganlyniadau'r Arolwg o Brofiadau Cleifion Canser Cymru yn ddiweddar, rydyn ni'n gwybod nad yw pob person sy'n byw gyda chanser yn cael gweithiwr allweddol, asesiad, cynllun gofal ysgrifenedig a'r wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
"Hoffwn weld bod y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod y pethau hyn ar gael i bob claf canser, fel maen nhw wedi'u nodi yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, dolen allanol, i'w helpu i wynebu canser gyda'r holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw."
I bwysleisio hyn mae Macmillan wedi gwneud ffilm gyda David Phillips, 74, o Gastell Nedd yn son am ei brofiad.
Cafodd Mr Phillips wybod ei fod yn dioddef o ganser y gwddw bum mlynedd yn ôl.
Tra'r oedd o'n derbyn triniaeth, doedd o ddim eisiau i neb ymweld ag ef yn ei gartref, oherwydd ei fod wedi colli gymaint o bwysau, ac roedd yn methu cysgu oherwydd ei fod yn poeni y byddai yn marw yn ei gwsg.
Roedd yn ymdrechu i allu cerdded, siarad a bwyta ar ôl ei driniaeth.
Dangosodd yr ymchwil fod pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru'n dweud eu bod yn teimlo'n llai unig na'r rhai sy'n byw yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.