Barry a Mirain Evans yn ennill Cân i Gymru 2014

  • Cyhoeddwyd
Mirain a Barry'n ymarferFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mirain a Barry Evans o Chwilog yn ymarfer

Barry a Mirain Evans oedd enillwyr Cân i Gymru ym Mhafiliwn Môn nos Wener.

Galw Amdanat Ti oedd cân y tad a'i ferch o Chwilog a'r wobr yw £3500 a thlws Cân i Gymru.

Dywedodd Mirain: "Dwi'n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Ebrill."

"Diolch i bawb sy' wedi ffonio, wedi watsio, ac wedi ein cefnogi ni," meddai Barry.

Roedd Barry yn aelod o grŵp gwerin Y Moniars a dyma'r tro cyntaf iddo gyfansoddi gyda'i ferch Mirain.

Dywedodd ei fod wedi cyfansoddi'r gân dros 20 mlynedd yn ôl pan oedd newydd gychwyn canu gyda'r Moniars.

'Gorffen y gân'

"Rhyw bedwar mis yn ôl roedd Mirain yn busnesu trwy hen luniau, llythyrau a clips papurau newydd, a daeth hi o hyd i'r gân anorffenedig.

"Felly dyma fi'n awgrymu i ni orffen y gân hefo'n gilydd a chywiro'r treigladau cyn ei gyrru hi mewn at y gystadleuaeth am hwyl."

Elin Fflur a Gethin Evans gyflwynodd y noson a'r caneuon eraill ar y rhestr fer oedd:

  • Aderyn y Nos gan Gruff Siôn Rees;

  • Agor y Drws gan Y Cledrau - Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Prys ac Alun Roberts;

  • Ben Rhys gan Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris;

  • Brown Euraidd gan Kizzy Meriel Crawford;

  • Dydd yn Dod gan Ifan Davies a Gethin Griffiths.

Cadeirydd panel y rheithgor oedd y cerddor Siôn Llwyd.

'Arwydd iach'

Cyn y gystadleuaeth dywedodd: "Eleni mae croestoriad eang o ganeuon wedi cyrraedd y brig ac mae'n galonogol, wrth weld yr enwau, mai cyfansoddwyr a pherfformwyr ifanc sydd wrth wraidd y caneuon i gyd," meddai.

"Mae hyn yn braf ei weld ac yn arwydd iach ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg."

Ymhlith aelodau'r panel eleni roedd enillwyr tlws 2013, Osian Williams a Rhys Gwynfor, o'r band Jessops a'r Sgweiri.

Gyda nhw roedd Alys Williams, fu'n cystadlu ar The Voice ac sydd wedi perfformio ar Cân i Gymru yn y gorffennol, Gwenda Owen, cantores o Gwm Gwendraeth sydd â blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant, a Neil 'Maffia' Williams o'r grŵp roc Maffia Mr Huws.

Mae'r gystadleuaeth wedi ei chynnal ers blynyddoedd a dyma oriel o luniau o rai o'r cystadleuwyr.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynwyr nos Wener: Gethin Evans ac Elin Fflur