Cau rhan o draeth Bae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Traeth Bae ColwynFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddelweddau Cyngor Conwy o'r newidiadau dros dro ar draeth Bae Colwyn

Mae milltir o draeth Bae Colwyn wedi ei gau i'r cyhoedd am fisoedd tra bod gwaith ar gynllun adnewyddu a diogelu amddiffynfeydd môr y dref yn cael ei gwblhau.

Dywedodd Cyngor Conwy ddydd Llun fod rhan o'r traeth - rhwng Llandrillo yn Rhos a Phorth Eirias - wedi ei gau er mwyn diogelu'r cyhoedd gan fod peiriannau trwm yn cael eu defnyddio yn ystod 'Prosiect Glan y Môr'.

Mae'r gwaith, sydd werth £6.7 miliwn, yn cynnwys gwaith atgyweirio hanfodol i'r morglawdd presennol ac adnewyddu rhan o'r promenâd rhwng Porth Eirias a'r Pier, gyda'r promenâd yn cael ei godi a'i arwynebu.

Bydd llain o draeth i'r gorllewin o Borth Eirias yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod a gobaith y cyngor ydi ail-agor rhannau o'r traeth wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Priffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Mae pawb wedi gweld yr effaith a gafodd y stormydd ar ddechrau'r flwyddyn a sut mae'r gwaith a gwblhawyd eisoes wedi llwyddo i amddiffyn promenâd Bae Colwyn, ac roedd y traeth newydd yn boblogaidd iawn y llynedd.

''Gyda'r amddiffynfeydd môr ychwanegol yn eu lle, byddwn hefyd yn gwella'r promenâd a'r llwybr i'r dref i atgyfnerthu profiad trigolion ac ymwelwyr. Bydd y cyfraniad artistig i'r cynllun yn gyffrous iawn - cafwyd adborth calonogol iawn pan gyflwynwyd y syniadau i'r cyhoedd mewn digwyddiad ym Mhorth Eirias mis Tachwedd y llynedd".

Mae disgwyl i'r holl draeth ail-agor erbyn gwyliau'r haf.