'Yr Urdd achubodd yr iaith': Prys Edwards
- Cyhoeddwyd
Urdd Gobaith Cymru sydd wedi gwneud y "cyfraniad mwyaf un wrth achub yr iaith dros y 90 mlynedd diwethaf", yn ôl Llywydd Anrhydeddus y mudiad, Prys Edwards.
Roedd Mr Edwards yn cael ei holi gan Hywel Gwynfryn ar gyfer rhaglen 'Hywel Ddoe a Heddiw' a gafodd ei darlledu nos Sadwrn, Mawrth 15 ar S4C.
Yn 1972 fe wnaeth Hywel Gwynfryn gyflwyno rhaglen i nodi hanner canrif ers sefydlu'r Urdd yn 1922.
Roedd Prys Edwards yn un o bobl amlycaf y dathliadau ac yntau'n fab i sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards.
'Newid agwedd'
Yn y cyfweliad mae Mr Edwards yn trafod pwysigrwydd y mudiad, gan ddechrau drwy son am Wersyll yr Urdd yn Llangrannog. Dywedodd:
"Dwi'n meddwl mai Llangrannog yw'r lle pwysicaf yng Nghymru i'r iaith Gymraeg, yn fy marn i, achos dyma'r lle y newidiodd agwedd pobl at yr iaith.
"Fe gafodd ei newid o fod yn iaith y capel ac iaith yr eisteddfod i fod yn iaith hwyl, dawnsio a phopeth fel 'na. Mae wedi newid y Gymraeg, yn fy nhyb i.
"Dyma'r mudiad sydd wedi achub yr iaith Gymraeg, heb os nac oni bai."
'Positif'
Bu Prys Edwards, sydd bellach yn ei 70au, hefyd yn son am yr her o fyw gyda'r cyflwr Parkinson's.
Bu ei frawd Owen Edwards - prif weithredwr cyntaf S4C - â'r cyflwr am flynyddoedd tan ei farwolaeth yn 2010.
"Fe wnaeth therapydd holistig fy nysgu i droi popeth negyddol yn bositif," meddai.
"Fe allen i fod wedi dewis peidio trio ond dwi'n mwynhau bywyd yn llawn, dwi yng nghanol pobl ifanc ac mae gen i deulu sy'n fy nghefnogi i."
'Diddordeb ysol'
Datgelodd Hywel Gwynfryn ei fod yn fraint cael y cyfle i gyfweld â Prys Edwards ar gyfer y gyfres. Dywedodd:
"Mae Prys yn gyfaill agos i mi ac rwy'n edmygu'r ffordd y mae wedi wynebu'r her o fyw gyda'r cyflwr Parkinson's. Roeddwn yn awyddus i'w holi am ei brofiadau personol yn ymdrin â'r cyflwr, yn ogystal ag am ei gariad ac angerdd tuag at fudiad yr Urdd.
"Er ei fod bellach wedi trosglwyddo'r fantell o arwain yr Urdd i genhedlaeth newydd, mae'n cymryd diddordeb ysol yn y mudiad o hyd ac yn credu'n danbaid bod yr Urdd yn allweddol i ddyfodol a ffyniant yr iaith Gymraeg."
Mae'r gyfres 'Hywel Ddoe a Heddiw' yn gynhyrchiad cwmni Tinopolis, ac fe fydd y rhaglen gyda Prys Edwards yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Sadwrn, Mawrth 15 am 9:00yh.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012