Galw am fudiad arall o fewn yr Urdd ar gyfer rhieni

  • Cyhoeddwyd
Prys EdwardsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prys Edwards bod angen i rieni sylweddoli gwerth y Gymraeg

Gydag Urdd Gobaith Cymru yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed mae mab y sylfaenydd, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn galw am sefydlu ail fudiad.

Syniad Prys Edwards yw y byddai'r mudiad hwnnw ar gyfer rhieni ac yn cyd-redeg a'r Urdd.

Mae Mr Edwards hefyd wedi cadarnhau wrth BBC Cymry bydd yn ymddeol fel ymddiriedolwr gyda'r Urdd am resymau iechyd yn ddiweddarach eleni ond bydd yn parhau fel Llywydd Anrhydeddus.

Mae o wedi rhoi 47 mlynedd o wasanaeth i'r mudiad y sefydlodd ei dad.

Dyhead a gobaith Syr Ifan wrth iddo sefydlu'r Urdd union 90 mlynedd yn ôl oedd gwarchod y Gymraeg er budd plant Cymru.

Ac mae ei fab yn dweud bod angen i'r rhieni bellach fod yn rhan o weledigaeth yr Urdd.

"Mae'n sialens fawr iawn i gael y rhieni neu'r cartref i fod yn Gymraeg," meddai.

Cystal â'r Saesneg

"Mae'r plant yn dysgu'r iaith yn yr ysgolion ond y tu allan i'r ysgolion mae'n rhaid i ni sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn iaith hwyl a mwynhad...

"Rydan ni'n gwneud hyn ond mae 'na ffordd bell i fynd i ddyblu yn egniol.

Disgrifiad,

Iola Wyn fu'n holi Prys Edwards

"Efallai y dylen ni fod yn edrych ar sefydlu mudiad o fewn yr Urdd neu i gyd-redeg a'r Urdd ar gyfer rhieni.

"Y funud y cawn ni'r rhieni i ddeall bod yr iaith Gymraeg cystal â'r Saesneg a bod modd y gellir cyflawni popeth modern yn Saesneg yn y Gymraeg dros y 10 mlynedd nesaf yn benderfynol o wneud hyn."

Fel pensaer wrth ei alwedigaeth mae Mr Edwards wedi dal swyddi gwirfoddol o fewn yr Urdd ers 1965.

Bu'n Ysgrifennydd Mygedol, Trysorydd, Cadeirydd a Llywydd.

'Eiddigeddus'

Bu hefyd yn aelod am flynyddoedd, yn swyddog yn y gwersylloedd, yn gyn-arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd yr Urdd yn yr ymgyrch i gael Deddf yr Iaith Gymraeg.

"Mae'r Urdd wedi llwyddo yn aruthrol ac mae 'na ddyddiau eithriadol o ddiddorol o'n blaen," meddai.

"Gyda datblygiad chwaraeon, Eisteddfod, gwersylloedd ac yn y blaen, mae plant yn eithriadol o lwcus a dwi'n gwbl eiddigeddus.

"Yn 1959 cafodd fy nhad strôc ddifrifol iawn a dyna pryd y penderfynais i gymryd drosodd.

"Dwi ddim yn siŵr faint o staff oedd 'na bryd hynny, rhyw ddwsin o staff a chostau blynyddol o £50,000.

"Erbyn hyn mae 250 o staff a £175,000 yr wythnos.

"Petae fy nhad yn dod yn ôl heddiw, byddai yn cael braw a phleser o weld datblygiad anhygoel yr Urdd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol