Pencadlys S4C yn symud i Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi y bydd pencadlys y sianel yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin.
Roedd yr awdurdod yn cyfarfod yn Llanisien drwy'r bore cyn cyhoeddi'r penderfyniad.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant arweiniodd y cais llwyddiannus.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Medwin Hughes: "Dyma newyddion pwysig iawn yn natblygiad a pharhad yr iaith Gymraeg ar draws y rhanbarth.
'Catalydd'
"Mae hefyd yn holl-bwysig i ddatblygiad economi Sir Gâr, gan greu cyfleoedd newydd a swyddi newydd yn yr ardal.
"Yn wir, mae'n gatalydd pwysig tu hwnt ar gyfer datblygiad cyffredinol y rhanbarth cyfan."
Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Mae aelodau Awdurdod S4C wedi cael cyfle i glywed, darllen, trafod a chraffu ar gynlluniau gwych sydd wedi'u cyflwyno i ni gan ddau grŵp â gweledigaeth gref iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.
"Rydym wedi cytuno ei bod hi'n ddichonol ac yn ymarferol bosib i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin, ac yn unol â'n hamodau, mae'r cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno i ni yn gost-niwtral dros gyfnod.
"Rydym yn hyderus y byddai'r cynlluniau hyn o fudd i wasanaeth S4C, ac yn cynnig buddiannau economaidd ac ieithyddol yng Nghaerfyrddin. Fe fydd S4C nawr yn ceisio gwireddu'r dymuniad a'r uchelgais yma ar y cyd â'n partneriaid yn yr ardal."
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae'r penderfyniad hwn yn gam sylweddol ymlaen i'n cynlluniau i hybu'r economi a'r iaith mewn rhan arall o Gymru.
"Rwy'n llongyfarch partneriaid cais Caerfyrddin yn wresog ac, yn naturiol, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ymhellach gyda nhw i wireddu'r cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno.
"Nawr mae gwaith mawr pellach i'w wneud i droi'r cynlluniau hyn yn realiti.
"Drwy wneud hynny, fe fyddwn ni'n cadarnhau lle S4C fel darlledwr cenedlaethol Cymru, a byddwn hefyd yn creu buddiannau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol go iawn yng Nghaerfyrddin.
'Hwb i'r iaith Gymraeg'
"Yr amod clir o'r cychwyn oedd bod angen gwireddu hyn mewn ffordd sy'n gost-niwtral ac sy'n diogelu ein cyllideb cynnwys i'r dyfodol.
"Hoffwn longyfarch hefyd partneriaid cais Caernarfon. Er na chawson nhw eu dewis yn y diwedd, mae eu gweledigaeth yn un arbennig o gyffrous i bobl y gogledd orllewin."
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud bod y penderfyniad yn newyddion gwych i'r ardal.
"Fe wnaeth y Drindod roi achos cryf iawn i S4C gartrefu yng Nghaerfyrddin ac rydyn ni'n falch iawn eu bod yn llwydiannus," meddai arweinydd y cyngor, Kevin Madge.
"Bydd y newid yn golygu creu tua 150 o swyddi ac mae'n wir hwb i'r economi leol.
"Mae hefyd yn hwb i'r iaith Gymraeg, gan gynnig swyddi o safon i siaradwyr Cymraeg.
"Rydyn ni'n falch iawn gyda'r penderfyniad fydd yn ysgogi twf yn y diwydiannau creadigol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda nhw."
'Siomedig tu hwnt'
Yn y cyfamser, dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Yn naturiol, mae'r cyhoeddiad yn siomedig tu hwnt.
"Dros y flwyddyn a rhagor diwethaf mae swyddogion a chynghorwyr wedi gweithio'n agos gydag S4C i ddatblygu cais cyffrous cryf ar gyfer adleoli i Gaernarfon oedd yn cwrdd gyda gofynion yr awdurdod.
"Er hyn, mae hon wedi bod yn broses bositif sydd wedi ein galluogi i arddangos potensial aruthrol Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru fel canolfan bwysig ar gyfer y diwydiannau creadigol.
"Ein bwriad rŵan ydi adeiladu ar y gwaith cadarnhaol yma er mwyn denu swyddi newydd o safon i'r ardal."
Fel rhan o'r cynllun, mae S4C wedi cytuno i'r egwyddor o "gydleoli elfennau o waith y sianel gyda'r BBC yng Nghaerdydd".
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn croesawu penderfyniad Awdurdod S4C i gytuno i'r egwyddor o gydleoli gwaith darlledu gyda'r BBC mewn canolfan newydd yng Nghaerdydd erbyn 2018.
"Mae penderfyniad yr Awdurdod yn dilyn cyfnod o gydweithio agos rhwng y darlledwyr. Mae disgwyl i Fwrdd ac Ymddiriedolaeth y BBC ystyried cynlluniau terfynol ar gyfer canolfan ddarlledu newydd o fewn yr wythnosau nesaf."
Astudiaeth
Fe gyhoeddodd S4C ym mis Medi eu bod am gynnal astudiaeth am symud y pencadlys yn dilyn trafodaethau gyda nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd S4C y byddai'r sianel yn parhau i gynnal "presendoldeb cryf" yn y brifddinas.
Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, y prif ffactorau oedd yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad o blaid Caerfyrddin oedd "manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o'r ardaloedd hynny mewn ffordd sy'n ddichonol i'r sianel ac yn gost-niwtral ".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014