Ann Clwyd yn galw am ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Clwyd fod ei dymuniadau wedi cael eu hanwybyddu a rheolau cyfrinachedd wedi eu torri

Mae'r AS Llafur Ann Clwyd yn galw am ymddiswyddiad cadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi iddi honni bod y bwrdd wedi rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol am yr achos i farwolaeth ei gŵr yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe ddywedodd y bwrdd iechyd wrth AS Cwm Cynon fod gwybodaeth am achos ei gŵr wedi ei ryddhau fel rhan o ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd "nad oedd yr adroddiad cyfan wedi ei ryddhau, a dyw hi ddim yn fwriad gennym ni i ryddhau'r adroddiad llawn na thorri rheolau cyfrinachedd".

Ychwanegodd y bwrdd iechyd ei fod wedi rhyddhau manylion dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, sef datganiadau "sydd eisoes yn eiddo i'r cyhoedd, yn ogystal â chanlyniad yr ymchwiliad". Daeth yr ymchwiliad i ben rai misoedd yn ôl.

Fodd bynnag, dywedodd Ms Clwyd fod ei dymuniadau wedi cael eu hanwybyddu a rheolau cyfrinachedd wedi eu torri. Fe ddywedodd y dylai'r cadeirydd, Maria Battle a'r prif weithredwr, Adam Cairns, ystyried eu sefyllfaoedd.

Meddai: "Rwy'n gandryll fod hawliau cyfrinachedd fy niweddar ŵr a minnau wedi eu diystyrru gan Maria Battle, ac rwy'n credu nad ydy hi bellach yn addas i aros mewn swydd gyhoeddus.

"Mae hyn yn dilyn misoedd o bwysau gan Ms Battle am hyn, ac yn y cyfnod hwn fe wnes i hi'n glir nad o'n i am i adroddiad cychwynnol yr ymchwiliad gael ei wneud yn gyhoeddus."

Ychwanegodd: "Mae'r ymchwiliad yn dilyn fy nghwyn yn parhau, a dim ond yn ddiweddar wnes i gytuno gyda Ms Battle ar benodi ymchwilwyr annibynnol i ymdrin â'r mater. Mae felly hyd yn oed yn fwy anaddas bod fy nymuniadau wedi eu hanwybydddu a rheolau cyfrinachedd wedi eu torri.

"Mae'n ddiwrnod cywilyddus i Ysbyty Athrofaol Cymru a GIG Cymru, ac rwy'n gofidio'n wirioneddol am beth sydd wedi digwydd."

Fe ddywedodd yr AS y byddai'n anfon cwyn at y Comisiynydd Gwybodaeth ac yn ystyried gweithredu'n gyfreithiol.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd:

"Dydy'r adroddiad cyfan heb gael ei ryddhau, a dyw hi ddim yn fwriad gennym ni i ryddhau'r adroddiad llawn na thorri rheolau cyfrinachedd. Rydym wedi derbyn nifer o geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gyhoeddi'r adroddiad llawn, ac rydym wedi eu gwrthod i gyd ar sail cyngor cyfreithiol.

"Yn ddiweddar, fe ofynwyd eto i ni, dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, i gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad. Mae ar y bwrdd iechyd ddyletswydd i ystyried y cais hwn, ac fe ofynon ni am gyngor cyfreithiol annibynnol ar sut i ymateb.

"Yn seiliedig ar y cyngor arbenigol hwnnw fe ymatebodd y bwrdd iechyd i'r cais yr wythnos ddiwethaf, gan gyfyngu'r ymateb hwnnw i ddatganiadau oes eisoes yn eiddo i'r cyhoedd a chanlyniad yr ymchwiliad.

"Ers hynny, mae Ms Clwyd wedi gofyn i ni beidio rhannu'r wybodaeth ac felly byddai'n anaddas i ni wneud sylw pellach cyn i ni allu cyfarfod ei chyfreithwyr yn bersonol".

Mae BBC Cymru'n deall bod cyfarfod rhwng cyfreithwyr Ms Clwyd a'r bwrdd yn cael ei gynllunio.