Trên rhwng Aber a Chaerfyrddin?

  • Cyhoeddwyd
Tren trenFfynhonnell y llun, mattbuck
Disgrifiad o’r llun,

Byddai ailagor y llinell yn costio rhyw £650m yn ôl Simon Thomas

Mae grŵp sydd eisiau gweld y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cael ei ailagor yn ceisio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth er mwyn ystyried y posibiliad.

Yn ôl Traws Link Cymru, camgymeriad oedd cau'r llinell yn y lle cyntaf a byddai ei ailagor y llinell yn cryfhau'r economi.

Mae'r syniad wedi derbyn cefnogaeth gan Aelodau Cynulliad o bob plaid.

Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

'Cyswllt hanfodol'

Y syniad mae Traws Link Cymru wedi ei gynnig yw defnyddio darn o'r llinell sydd yno'n barod, a darn newydd rhwng Alltwalis a Chaerfyrddin.

Byddan nhw wedyn eisiau gweld gorsafoedd yn cael eu hadeiladu yn Llandysul, Llanybydder, Llanbed, Tregaron, Llanilar a Llanfarian.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Simon Thomas arwain dadl fer yn y Senedd ynglŷn â'r cynnig yn ddiweddar.

Dywedodd: "Rwy'n ffyddiog nad oes amheuaeth y daw pobl i ddefnyddio'r lein hwn, ac y bydd yn gyswllt hanfodol rhwng de a gogledd Cymru ac o'r gorllewin i Abertawe a Chaerdydd.

"Mae 55,000 o bobl yn byw ar hyd y llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae hynny yn cymharu â 50,000 - ychydig yn llai - sy'n byw ar hyd y llwybr rhwng Aberystwyth ac Amwythig, ac mae'r lein yno nid yn unig ar agor o hyd ond yn cynyddu o ran ei defnydd.

"Gyda twf Caerfyrddin ac Aberystwyth fel canolfannau gwaith ac economi... nid oes dwywaith yn fy marn i na fyddai'r lein yn defnyddio'r lein yn y cannoedd a'r miloedd."

'Brwdfrydedd'

Yn ystod y ddadl fe wnaeth Byron Davies o'r Ceidwadwyr gefnogi'r syniad hefyd, gan ddweud ei fod "yn credu y dylen ni gael y cysylltiad yma".

Ychwanegodd: "Fe ddylai un diwrnod gysylltu â llinell wedi ei thrydanu i'r gorllewin o Abertawe er mwyn caniatâd pobl ifanc i deithio i Gaerdydd ac Abertawe yn ddyddiol, fydd ella'n arwain at lai o bobl yn croesi'r ffin a ddim yn dod yn ôl.

Dywedodd William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol bod "brwdfrydedd go iawn am y prosiect".

Mewn ymateb i'r ddadl, dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart, mewn ymateb i ddadl Mr Thomas, bod "rhannau sylweddol o'r llinell wedi cael ei adeiladu arno".

Ond fe ddywedodd y byddai hi'n trafod ymhellach gyda'i swyddogion.