Cameron: cyflwr y gwasanaeth iechyd yn sgandal
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn sgandal yn ôl y prif weinidog David Cameron wrth iddo ateb cwestiwn gan aelod seneddol Ceidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Hwn yw'r tro diweddaraf mewn ffrae rhwng Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru ynglŷn â pherfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Yn ôl Llafur hon yw'r bennod ddiweddaraf "yn rhyfel y Torïaid yn erbyn Cymru."
Ond yn ôl gweinidogion San Steffan mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn methu targedau, tra bod amseroedd aros am driniaeth yn hirach yng Nghymru.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau' Prif Weinidog dywedodd Mr Cameron: "Mae'r hyn sy'n digwydd i'r NHS yng Nghymru yn sgandal, a'r blaid Lafur sydd mewn grym ac yn rheoli Llywodraeth Cymru sy'n gwbl gyfrifol am y sgandal.
"Y nhw wnaeth y penderfyniad i dorri gwariant ar y gwasanaeth iechyd o 8% yng Nghymru. O ganlyniad nid yw'r targedau ar gyfer unedau brys wedi ei gyrraedd ers 2009."
Dywedodd wrth yr arweinydd Llafur Ed Miliband: "Pe bai chi ag asgwrn cefn byddwch yn cael gafael ar y prif weinidog yng Nghymru ac yn dweud wrtho i ddechrau buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran lywodraeth Cymru fod sylwadau Mr Cameron yn gyfystyr a'r "pennod ddiweddaraf yn rhyfel y Torïaid yn erbyn Cymru" a bod yr holl ymosodiad ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi ei baratoi a'i sgriptio o flaen llaw.
"Fe wnaeth y Torïaid dorri cyllid Cymru o £1.7 biliwn. Er hyn rydym yn dal i wario mwy y pen yng Nghymru na'r hyn sy'n cael ei wario yn Lloegr."