Gobaith i bwll nofio'r Heulfan yn Y Rhyl?
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd miliwnydd yn ymweld â phwll nofio yr Heulfan yn y Rhyl yn ddiweddarach, wrth i ymgyrchwyr obeithio y bydd y ganolfan yn cael ei hachub.
Mae Mo Chaudry, pennaeth parc dŵr Waterworld yn Stoke, wedi mynegi diddordeb yn y pwll hamdden.
Fe gytunodd i ymweld â'r ganolfan yn dilyn ymgais gan yr Aelod Seneddol lleol Chris Ruane i ennyn diddordeb prynwyr posib i'r adeilad.
Bu'n rhaid i'r Heulfan gau ei drysau ar ôl i'r ymddiriedolaeth oedd yn ei rheoli redeg allan o arian. Roedd yr ymddiriedolaeth hefyd yn rhedeg Canolfan Nova ym Mhrestatyn, a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru.
Gweithgareddau sych
Mewn cyfarfod fis diwethaf fe gyfeiriodd cynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych at y posibilrwydd o ail-agor Canolfan yr Heulfan fel canolfan weithgareddau sych.
Fe bleidleisiodd y cynghorwyr i beidio ag ail-agor Canolfan Nova ond i ail-agor y ganolfan fowls cyn gynted â phosib.
Cafodd ymddiriedolaeth Clwyd Leisure ei sefydlu can y cyngor yn 2001 i redeg y safleoedd ar ei ran.
Ond fe benderfynodd cabinet Cyngor Sir Ddinbych beidio â chynnig cymorth ariannol o £200,000 yn 2014-15.
Bu ymddiriedolwyr Clwyd Leisure mewn trafodaethau gyda'r awdurdod am fisoedd i drafod rhedeg y canolfannau eu hunain yn annibynnol o'r cyngor ond methiant oedd y trafodaethau.
Fe roddodd yr ymddiriedolaeth y gorau i fasnachu ym mis Chwefror.