Ffrae dros amseroedd aros i filwyr yn dilyn honiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae honiadau fod milwyr yn gorfod aros yn hirach am driniaeth yng Nghymru o gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU wedi cael eu gwadu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd y Sun on Sunday, dolen allanol mae prif swyddog meddygol y lluoedd arfog eisiau symud milwyr o Gymru i Loegr i dderbyn triniaeth o achos oedi honedig yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ond yn ôl David Rees AC, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd yn y Cynulliad, roedd y dystiolaeth am oedi i filwyr cyn derbyn triniaeth yng Nghymru yn 'anecdotaidd' yn unig.

Yn ôl y Sun on Sunday, dywedodd Llawfeddyg Cyffredinol Marsial yr Awyrlu Paul Evans wrth gyd-gyfarfod o'r bwrdd iechyd a gweinyddiaeth amddiffyn fod milwyr yng Nghymru yn wynebu rhestrau aros hirach am driniaeth nag yn unman arall.

Mae BBC Cymru wedi gweld rhai o gofnodion o'r cyfarfod yma sydd yn trafod yr angen i sicrhau nad oes rhai milwyr ''dan anfantais'' mewn rhannau o'r DU.

Angen ''symud milwyr''

Dywedodd Philip Hammond, ysgrifennydd amddiffyn llywodraeth San Steffan, y dylid symud milwyr o un ardal i ardal arall am driniaeth.

Dywedodd David Rees AC wrth raglen Sunday Supplement BBC Cymru fod y wybodaeth yn ''anecdotaidd'' ac nad oedd yn ymwybodol o'r fath broblemau.

Ond fe ddywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac aelod o'r Pwyllgor Iechyd yn y Cynulliad, y dylid galw ar Paul Evans i roi tystiolaeth i'r pwyllgor hwnnw.

''Haeddu gwell''

Dywedodd llefarydd o'r blaid Lafur ar ran Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: ''Mae llusgo ein milwyr i mewn i ffrae wleidyddol dros y gwasanaeth iechyd yn warth. Mae'r dynion a merched dewr sydd yn amddiffyn y wlad yn haeddu gwell na chael eu defnyddio fel pêl-droed wleidyddol gan y llywodraeth glymblaid.

''Er fod y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn wynebu problemau anferth, mae'r Torïaid wedi treulio wythnosau yn ymosod ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol cyn yr etholiad cyffredinol. Heb fodloni digon ar wylltio ein nyrsus a'n doctoriaid, mae nhw nawr yn defnyddio ein milwyr hefyd. Mae'n rhaid i'r ymgyrch ffiaidd yma ddod i ben.

''Hollol gandryll''

Meddai'r llefarydd: ''Mae'r Prif Weinidog yn hollol gandryll am hyn ac fe fydd yn mynnu ymchwiliad gan was sifil pennaf y DU i mewn i'r ymgais yma i droi'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn wleidyddol.

"Mae'n gwbl anghywir i honni fod milwyr yng Nghymru o dan anfantais. Mewn gwirionedd mae gofal iechyd a thriniaeth y gwasanaeth iechyd i filwyr yng Nghymru yn flaenoriaeth,'' meddai.