Codi'r clawdd cyn amser Brenin Offa?

  • Cyhoeddwyd
Clawdd Offa
Disgrifiad o’r llun,

Pwy adeiladodd y clawdd?

Mae darganfyddiad yn awgrymu bod rhannau o Glawdd Offa wedi cael eu hadeiladu 200 mlynedd cyn iddo ddod yn Frenin Mercia.

Oherwydd profion dyddio radio carbon mae archaeolegwyr wedi dweud y cafodd rhan o'r clawdd ei hadeiladu yn ail hanner y chweched ganrif.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, sydd wedi bod yn ymchwilio ger Y Waun, fod y datblygiad yn "gyffrous."

Mae'r rhan dan sylw wedi ei dyddio rhwng y flwyddyn 430 a 652.

Yn draddodiadol, mae haneswyr wedi cysylltu'r clawdd gyda Brenin Offa reolodd deyrnas Mercia yng nghanolbarth Lloegr rhwng y flwyddyn 757 a 796.

Ond mae'r datblygiad diweddara'n taflu golau newydd ar y clawdd 177 milltir o hyd o Brestatyn i Sir Fynwy,

'Ailystyried'

Dywedodd Paul Belford, cyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth, fod angen "ailystyried" hanes y clawdd.

"Roedd y clawdd yn arwydd o rym Mercia.

"Ond mae'n edrych yn debyg bod rhannau o'r clawdd wedi cael eu hadeiladu cyn amser Offa.

"Mae'n debyg bod Offa wedi cyfuno a chryfhau beth oedd wedi ei wneud yn barod.

"Nid gwaith un llywodraethwr ydi hwn ond prosiect hir-dymor wedi cael ei ddechrau yn gynharach yn natblygiad y deyrnas."

Dywedodd: "Wrth gwrs, enghraifft o un darn o'r clawdd yw hon.

"Bydd rhaid gwneud mwy o waith ar rannau eraill cyn dweud yn bendant pwy adeiladodd y clawdd a pham."

Hyd heddiw mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dilyn rhan helaeth o Glawdd Offa.