Llandudno'n 'apelio at ymwelwyr'
- Cyhoeddwyd

Mae yna nifer fawr o westai ar hyd y ffrynt yn Llandudno

Roedd y dre' yn cael ei hadnabod fel 'Naples y gogledd' yn ystod Oes Fictoria

Cafodd pier newydd ei osod yn lle'r un pren gwreiddiol yn 1877
Mae tre' Llandudno wedi'i chynnwys ar restr o'r 10 lle gorau i ymweld â nhw yn y DU, yn ôl gwefan deithio TripAdvisor.
Llundain oedd ar y brig, gyda Chaeredin yn ail. Ond Llandudno a Torquay, yn Nyfnaint, oedd yr unig ddwy dre' glan môr a gafodd eu henwi.
Roedd Torquay yn drydydd ar y rhestr, tra bod Llandudno'n cipio'r wythfed safle.
Mae'r safle yn cyfeirio at nifer o atyniadau yn Llandudno, gan enwi'r promenâd, y pier a'r Gogarth yn benodol.
Ond mae hefyd yn tynnu sylw at y tywydd cyfnewidiol, gan ddweud bod hi'n gallu bod yn ddigon oer ar y tir uwch.
"Ewch â siaced hefo chi. Mae'n gallu bod yn ddigon oer fyny fanna," meddai.
Mae tref wyliau Llandudno yn enghraifft glasurol o dre' glan môr Fictoraidd ac yn ganolfan siopa ac adloniant i lawer o drigolion y gogledd orllewin.
Cafodd y dre' ei datblygu gan y teulu Mostyn ar ddiwedd y 1840au, ac mae 'na gysylltiad yn parhau rhwng y teulu a'r dre' hyd heddiw.