Cyfle i weld trên stem Cymreig

  • Cyhoeddwyd
A CoullsFfynhonnell y llun, A Coulls
Disgrifiad o’r llun,

Y Taff Rhif 28 yn sgleinio wedi iddo gael ei adfer yn Llangollen

Mae trên stem, sydd yr olaf o'i fath i gael ei adeiladu yng Nghymru sy'n dal yn bodoli, bellach mewn arddangosfa yn Sir Gâr.

Cafodd y Taff Rhif 28 ei adeiladu nôl yn 1897 ar safle West Yard Works yng Nghaerdydd er mwyn cludo teithwyr rhwng y cymoedd a dociau'r brifddinas.

Yn 1926 cafodd ei dynnu o'r gwaith ond yn ddiweddarach cafodd ei ddefnyddio gan y fyddin a'r Bwrdd glo Cenedlaethol, cyn iddo ddod yn rhan o'r Casgliad Cenedlaethol yn 1960.

Mae bellach wedi cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol gan weithwyr yn Rheilffordd Stem Llangollen, lle mae'r gweithdy locomotif mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Ddydd Gwener fe deithiodd y trên o Langollen i Gaerdydd, cyn gwneud ei ffordd i Reilffordd Gwili, ger Bronwydd, lle bydd i'w weld tan fis Hydref.

Yno bydd yn cael ei gysylltu â'r unig gerbyd rheilffordd lled safonol Cymreig sy'n dal yn bodoli, gan greu'r unig drên stem Victorianaidd o Gymru yn y byd.

Dywedodd James Buckley o'r Gwili Vintage Carriage Group (GVCG): "Mae tri budd mawr i'r prosiect yma sef ein bod ni gam yn nes at greu trên wedi ei wneud yn gyfan gwbl o stoc Gymreig, bod prentisiaid yn Rheilffordd Llangollen wedi cael profiad gwerthfawr yn ailosod y Rhif 28; a bod y locomotif ar gael i'r cyhoedd ei weld am y tro cyntaf ers 20 mlynedd."

Cafodd y gwaith o adfer y trên ei drefnu gan GVCG, yr Amgueddfa Drên Genedlaethol yng Nghaer Efrog a Rheilffordd Stem Llangollen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol