Atgofion Ysbyty Meddwl Dinbych
- Cyhoeddwyd
Mae hen Ysbyty Gogledd Cymru wedi bod yn rhan bwysig o hanes tref Dinbych ers ei agor yn 1848.
Mae Cyngor Sir Ddinbych ar fin dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y safle, sydd wedi bod ynghau ers bron i 20 mlynedd.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr o blaid gweithredu cynllun prynu gorfodol ar gyfer yr ysbyty.
Bydd ymchwiliad cyhoeddus wedi i berchnogion y safle wrthod gorchymyn i dalu am waith adeiladu brys.
Mae disgwyl i'r broses bara pedwar diwrnod.
Mae BBC Newyddion Ar-lein wedi bod yn holi rhai o drigolion y dref am eu hatgofion nhw o'r ysbyty a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Raymond Bartley, Cynghorydd Sir a Thref Dinbych, fuodd yn gweithio yn yr ysbyty am 40 mlynedd fel uwch swyddog nyrsio
"Mae lot o'r safle wedi cael ei losgi, ond y neuadd oedd yn ganolfan i'r ysbyty. Roedd pob math o weithgareddau i'r cleifion a phobl o'r tu allan. Dwi'n cofio pobl fel Carson a Kenny Ball yn dod i'r ysbyty meddwl, ac roedd y plismyn yn cael eu dawns flynyddol yno. Roedd o'n andros o le da.
"Roedd yr ysbyty yn gartre' i'r cleifion - roedd 'na awyrgylch gartrefol yno, oedd mor bwysig achos roedd lot ohonyn nhw heb deuluoedd.
"Y peth cynta' ydy bod eisiau prynu'r lle - compulsary purchase order. Mi ddylai adeiladau hanesyddol pwysig fel yr ysbyty gael eu hadfer a'u datblygu.
"Mae'n lle bendigedig i adeiladu tai - golygfa fendigedig oddi yno. Mae blaen yr adeilad wedi'i restru - lle bendigedig i gael swyddfeydd ac ati.
"Mi fasa hefyd yn atyniad i ymwelwyr. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth efo fo neu mi fydd yn dirywio'n waeth fyth.
"Roedd yr ysbyty yn mynd am flynyddoedd, pawb yn gwybod amdano - roedd o'n dod â gwaith i bobl gogledd Cymru, roedd 'na gysylltiad da efo'r dre' ei hun - pobl yn cydweithio hefo'r ysbyty a'r cleifion. Byddai colli'r adeilad, yr atgof am hyn i gyd, yn drychinebus.
"Dydy o ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, mae'n mynd i gymryd blynyddoedd, ond mae angen dechra' gwneud rhywbeth ac mi fydd pobl yn gweld wedyn bod 'na fudd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol."
Bobi Owen, hanesydd o Ddinbych
"Roedd fy ngwraig, brawd yng nghyfraith a'm brawd i gyd yn gweithio yno. Atgofion eithaf melys sydd gen i am y lle.
"Roedd hi'n fôr o garedigrwydd yno er bod y cleifion yn dioddef salwch meddyliol. Roedd y staff yn annwyl iawn efo nhw o ystyried bod chi'n mynd 'nôl tipyn o amser.
"Fel hogyn ifanc un o'r pethe mawr oedd dawns y seilam - y seilam roedden ni'n galw'r lle. Roedd cystadleuaeth brwd am docynnau. Doedd y cleifion ddim yn cael mynychu. Dyma ddigwyddiad cymdeithasol y flwyddyn ac roedd y staff yn gwario wythnosau yn addurno'r neuadd. 'O'n i'n mynd yn rheolaidd.
"Roedd cannoedd a channoedd o bobl yn gweithio yno a phobl o siroedd dros ogledd Cymru wedi symud i fyw i Ddinbych er mwyn gweithio yno. Roedd yn dod â llawer o bobl i Ddinbych gan gynnwys ymwelwyr. Roedd yn dod ag arian i'r dref ac roedd yr ysbyty'n prynu lot o bethau yn y dref.
"Roedd Dinbych yn dawelach o lawer wedi i'r ysbyty gau. Roedd tîm pêl droed a chriced y staff yn amlwg iawn yng ngogledd Cymru. Roedd yr ysbyty fel tref ynddi ei hun. Roedd bron yn hunangynhaliol, roedd staff ar gyfer popeth.
"Gan fod yr ysbyty ar gyrion y dref faswn i wedi hoffi gweld swyddfeydd y sir yn mynd yno. Mae'n ddelfrydol ar gyfer rhywbeth felly.
"Faswn i ddim yn hoffi gweld diwydiant yn mynd yno a dwi ddim eisiau gweld yr ysbyty'n cael ei ddymchwel a thai yn cael eu hadeiladu yno. Yn ddelfrydol hoffwn weld amgueddfa a chanolfan gymunedol yno."
Dafydd Jones, fu'n gweithio fel nyrs yn yr ysbyty rhwng 1966-1995, nawr yn rhan o Gymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
"Bron iawn bod aelod o bob teulu hefo rhyw berthynas yn gweithio yna, ac roedd 'na gymuned glos yna, a lot o adloniant yn mynd ymlaen.
"Roedd rhan fwyaf o bobl yna am dymor hir, felly roedd ochr yr adloniant yn gry' iawn, yn enwedig yn y 40au, 50au a'r 60au.
"Ar ôl hynny wnaeth pethe newid, roedd agweddau at driniaeth iechyd meddwl yn newid a'r ffocws yn newid i'r gymuned.
"Dim ond adeilad ydi o wan, ac mae 'na olwg ddifrifol ar y lle erbyn rŵan, dwi 'di dychryn efo'i gyflwr.
"Rydyn ni'n gobeithio agor amgueddfa yn yr hen gwrt yn Ninbych, a gobeithio bydd yr holl gelfi sy'n cael eu cadw yn Archifdy Rhuthun yn dod yma i agor amgueddfa.
"Mae'r ysbyty 'di bod yn rhan bwysig iawn o'r dre, a dwi'n meddwl ei fod yn beth doeth i gadw'r pethe' yma i'r cenedlaethau i ddod."
Stan Lyle, sy'n byw yn Ninbych
"Collodd y cyngor sir gyfle flynyddoedd yn ôl.
"Mae'r safle wedi dirywio rŵan. Mae o'n adfail erbyn hyn, byddai angen gwariant aruthrol i'w adfer.
"Mae'n adeilad mor hardd, dwi ddim yn gwybod beth allai ddigwydd nawr, mae hi mor hwyr yn y dydd.
"Beth am goleg Cymraeg? Neu goleg chweched dosbarth Cymraeg i ysgolion y fro neu sefydliadau addysg tebyg?
"Y broblem yw ei fod o'n anferth o le - byddai isio mwy nag un sefydliad yno. Roedd sôn am garchar neu bencadlys y sir ond mi gollwyd y cyfle. Mae'r dirywiad yn y lle yn amlwg i bawb, mae'n cael ei fandaleiddio erbyn hyn.
"Mi oedd 'na gaeau chwaraeon da - y cyfan wedi mynd yn wastraff. Roedd sôn am amgueddfa feddygol ond mae'n rhy fawr i hynny.
"Dwi'n teimlo fod pobl wedi colli diddordeb erbyn hyn. Mae'n anodd dychmygu beth fydd yn digwydd i'r safle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014