Plaid Cymru yn barod i ddisodli Llafur – Rhun ap Iorwerth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru yn barod i "ddisodli" Llafur yn etholiad nesaf y Senedd, bydd yr arweinydd Rhun ap Iorwerth yn dweud yn ddiweddarach.

Yng nghynhadledd flynyddol y blaid bydd yr arweinydd yn addo y gall gyflwyno "llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd".

"Mae newid nawr yn ymddangos yn anochel ac wrth gwrs mae'n hir ddisgwyliedig," bydd yn dweud, gan alw ar bleidleiswyr i gefnogi ei blaid os ydyn nhw am atal Reform UK rhag ennill yr etholiad.

Mae Llafur wedi arwain Cymru ers dechrau datganoli yn 1999, ac wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru ers canrif. Cynhelir yr etholiad nesaf ym mis Mai.

Mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ystod oes datganoli, gan fod yn bartner achlysurol i lywodraethau Llafur.

Nid yw wedi gallu curo Llafur mewn etholiad - ond mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu bod Plaid Cymru yn cystadlu â Llafur i ennill, fel y mae Reform.

Mae Rhun ap Iorwerth bellach yn ceisio gosod ei blaid fel y llywodraeth nesaf.

Hyd yn oed pe bai Plaid Cymru yn dod yn gyntaf, mae'n bosibl y byddai'n rhaid iddynt weithio gyda Llafur neu bleidiau eraill mewn rhyw ffordd, gan nad yw unrhyw blaid erioed wedi ennill mwyafrif yn y Senedd.

'Egni newydd a syniadau newydd'

Bydd arweinydd y blaid yn dweud wrth y gynhadledd: "Heddiw, gyda chyfle hanesyddol i adeiladu cenedl o'n blaenau, rydw i'n mynd i amlinellu'r dewis sy'n wynebu Cymru – dau ddyfodol gwahanol iawn ond dim ond un opsiwn credadwy."

"Gadewch i ni fod yn glir. Dydyn ni ddim yma i weithredu fel cydwybod Llafur. Dydyn ni ddim yma i adfer Llafur. Rydyn ni yma i'w disodli.

"Rydym yn addo llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd i brofi'r hyn y mae pob person sy'n credu yng Nghymru eisoes yn ei wybod – nad oes rhaid i bethau fod fel hyn."

Gyda rhai eithriadau, mae Plaid Cymru wedi bod yn gryfach yn draddodiadol yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.

Dywed Rhun ap Iorwerth y bydd ei lywodraeth ar ochr "hen ac ifanc. Trefol a gwledig. O'r gogledd a'r de. Siaradwr Cymraeg a'r di-Gymraeg".

"Dyma'r amser i stopio Reform ac i ethol llywodraeth sy'n fwy radical, yn fwy uchelgeisiol, ac yn ysu am wireddu newid positif yn fwy nag unrhyw lywodraeth aeth o'i blaen."

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais