Cynnydd o 6000% mewn tipio anghyfreithlon

Mae Casnewydd wedi gweld cynnydd o 6000% mewn tipio anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion dinas sydd wedi'i galw'n "brifddinas tipio anghyfreithlon" Cymru yn dweud bod cemegau ac asbestos wedi cael eu gadael y tu allan i'w cartrefi gan rai sy'n "tipio gwastraff diwydiannol yn anghyfreithlon".
Mae tipio anghyfreithlon ar ei uchaf ers 10 mlynedd yng Nghymru, ond mae Casnewydd wedi gweld cynnydd syfrdanol o 6000% - gyda miloedd o achosion y flwyddyn, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Dywedodd trigolion lleol sydd "wedi'u dychryn" gan y cynnydd bod cartrefi a ffyrdd wedi'u rhwystro gan wastraff a bod camerâu cylch cyfyng wedi cael eu tynnu i lawr.
Mae Cyngor Casnewydd yn dweud eu bod wedi cynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon a dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu cynllun Taclo Tipio Cymru i fynd i'r afael â'r broblem.

"Ymhlith y pethau sydd wedi cael eu gadael y tu allan i dai mae asbestos", meddai Lee Colvin
"Mae'n eithaf erchyll," meddai Lee Colvin, 44 o Lanbedr Gwynllwg.
"Mae lorïau mawr yn dod yng nghanol y nos ac yn tipio yng nghanol y ffordd ac yn gyrru i ffwrdd," meddai.
Dywedodd trigolion y pentref ger Casnewydd fod y gwastraff yn amrywio o "ddeunydd adeiladu mawr" i fagiau duon yn llawn clytiau budr.
"Mae rhai pobl wedi cael asbestos y tu allan i'w tŷ," meddai Lee.

Sbwriel gan gynnwys clytiau wedi'i adael ger Llanbedr Gwynllwg
Ychwanegodd Lee fod cemegau wedi cael eu tywallt y tu allan i'w dŷ e.
"Fe wnaeth fan wen stopio, fe wnaeth y drysau cefn agor gan wynebu fy nhŷ - ac fe wnaeth y rhai oedd yn y fan agor tap," meddai'r cyn-athro gwyddoniaeth.
Dywedodd Lee ei fod wedi sylwi ar labeli a oedd yn nodi eu bod yn gemegau peryglus.
Pan wnaeth Lee herio'r grŵp o ddynion oedd yn gadael y gwastraff, fe wnaethon nhw "rwygo" y plât rhif oddi ar y fan a "gyrru i ffwrdd yn gyflym" gan adael y cemegau'n llifo ar y ffordd.

Mae arwyddion a chamerâu ledled Casnewydd yn rhybuddio yn erbyn tipio anghyfreithlon ond mae rhai camerâu wedi'u tynnu i lawr
Mae Cyngor Casnewydd yn dweud eu bod yn wynebu "tasg gymhleth" wrth i dipio anghyfreithlon fod yn gysylltiedig â throseddau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw.
Mae nhw'n galw am "fwy o bwerau" i ddelio â'r mater.
Dywedodd llefarydd fod ceisio mynd i'r afael â "chasglwyr gwastraff twyllodrus" a "throseddau cyfundrefnol" yn rhywbeth sydd angen cael ei ddatrys gan luoedd heddlu ar y cyd wrth i bawb gasglu tystiolaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £1.2 miliwn dros y tair blynedd diwethaf ar gynllun Taclo Tipio Cymru.
Mae bron i 20% o'r holl dipio anghyfreithlon yng Nghymru yn digwydd yng Nghasnewydd er mai dim ond 5% o'r boblogaeth sy'n byw yno.
Cafodd Casnewydd ei galw'n "brifddinas tipio anghyfreithlon Cymru" yn y Senedd, gan Natasha Asghar, AS dros Dde-ddwyrain Cymru pan alwodd ar y prif weinidog i wneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae ffyrdd yng Nghasnewydd wedi cael eu rhwystro gan bobl yn tipio'n anghyfreithlon
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd eu bod yn trin tipio anghyfreithlon "yn ddifrifol iawn" ac wedi cynyddu eu hymdrechion "i fynd i'r afael â'r broblem".
Ychwanegodd bod "pob digwyddiad yn cael ei gofnodi a'i ymchwilio'n briodol, a bod y cyngor yn gweithredu pan mae yna dystiolaeth".
Dywedodd eu bod wedi dyrannu mwy o arian i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn eu cyllideb ar gyfer 2025/26 a bod ffigyrau o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025 yn dangos cynnydd o 165 i 2,390 o achosion gweithredu yn erbyn tipwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd a does yna ddim cyfiawnhad o gwbl dros wneud hynny.
"Rydym yn parhau i dargedu'r rhai sy'n dewis torri'r gyfraith a llygru ein hamgylchedd.
"Dyma pam rydym yn parhau i ariannu Taclo Tipio Anghyfreithlon Cymru, rhaglen a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac sy'n cefnogi awdurdodau lleol gyda'u gweithgareddau gorfodi, yn monitro lefelau tipio anghyfreithlon ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.