Cymro'r Eurovision: Glen yn Copenhagen
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos, buodd Glen Bartlett, 19 oed o Gasllwchwr, ger Abertawe yn dawnsio ar lwyfan cystadleuaeth yr Eurovision. Ar ôl teithio nôl o Copenhagen bu'n dweud ei hanes wrth BBC Cymru Fyw.
Dywedodd Glen: "Roeddwn i yn un o'r gwyliau cerddorol mwyaf yn Ewrop gyda mwy o dân gwyllt a disgleirdeb nag o'n i 'di gweld o'r blaen! Nage, nid yr Eisteddfod Genedlaethol, ond cystadleuaeth cân yr Eurovision!
Am bythefnos o'r flwyddyn, mae gwasg y byd yn gwneud y bererindod i'r wlad enillodd y flwyddyn cynt i weld crème de la crème o'r gerddoriaeth sy' 'da Ewrop i'w gynnig! Olwyn bochdew gan yr Wcráin.. y 'Slavic Girls' o Wlad Pwyl.. Efeilliaid ar si-so gan Rwsia... ac wrth gwrs, menyw â barf o Awstria... Roedd yna rywbeth i bawb yn hoff raglen Ewrop eleni.
Bu nifer o bobl yn ansicr os byddai'r gystadleuaeth yn llwyddo o'r cychwyn cyntaf. Dewisodd DR (darlledwr cenedlaethol Denmarc) hen iard longau i gynnal y gystadleuaeth ac mae'n rhaid cyfaddef, o'r tu allan nid oedd y lleoliad yn plesio'r llygaid, ond wrth gamu tu fewn i'r arena, mae'r 'B&W Hallerne' yn trawsnewid i fod yn wledd o oleuadau llachar, gyda naws y gynulleidfa wir yn drydanol.
Dawnsio o flaen miliynau
Cefais i'r profiad unigryw eleni o brofi llawenydd y gynulleidfa trwy berfformio ar y llwyfan! Fel rhan o'r thema 'Join Us', cafodd 26 o bobl o ar draws Ewrop siawns i ddawnsio ar lwyfan y gystadleuaeth o flaen 10,000 o bobl, gyda hyd at 30 miliwn o bobl y gwylio adref. Ac ie, roeddwn i braidd yn nerfus!
Ond, mae yna un atgof sy'n sefyll mas yn fy meddwl i yn ystod yr holl ymarferion; sylweddolais i - dim ond unwaith yn fy mywyd yr wy' i yn mynd i gael y profiad o ddawnsio o flaen miliynau o bobl ar lwyfan yr Eurovision, ac felly os ydych chi wedi gweld y fideo, gobeithio eich bod yn gallu gweld y pleser sydd ar fy wyneb wrth redeg ar y llwyfan! Gallwch fy ngweld yma ar wefan You Tube o tua 1.40, dolen allanol.
Enillydd teilwng
Mae'n rhaid sôn am ganlyniad y gystadleuaeth a llongyfarchiadau mawr i Awstria! Fel arfer yn y gystadleuaeth, mae gennym ni - y superfans i gyd rhyw fath o syniad pwy sy'n mynd i gipio'r wobr, ond eleni roedd tua deg cân a oedd yn haeddu ennill yn Copenhagen.
Ond, Conchita Wurst oedd piau'r noson gyda'i baled James Bond-aidd - Rise Like a Phoenix. Roedd y canlyniad yn grêt i'r gystadleuaeth - nid yn unig llwyddodd dyn mewn drag a oedd yn sefyll dros gydraddoldeb i ennill cystadleuaeth ganu fwyaf Ewrop, ond llwyddodd Awstria i ennill. Dyw'r Awstriaid ddim wedi cael llawer o hwyl yn y gorffennol!
Gyda 290 o bwyntiau profodd Awstria bod y gan orau yn gallu ennill yn hytrach na'r wlad gyda'r gefnogaeth "wleidyddol" orau ar y noson.
Gwelwn ni chi blwyddyn nesa' yn Awstria... mae'n amser bwco'r flights!"