Cyfres yr Hydref: Dechrau siomedig i gyfnod Cymru dan Steve Tandy

Chwaraewyr Yr Ariannin yn dathlu sgorio un o geisiau'r hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Yr Ariannin yn dathlu sgorio un o geisiau'r hanner cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Roedd yna ddechrau siomedig i gyfnod Steve Tandy fel prif hyfforddwr wrth i Gymru golli yn eu gêm gyntaf dan ei ofal.

28-52 oedd y sgôr yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn eu gêm agoriadol yng Nghyfres yr Hydref eleni.

Roedd yna chwe chais yn ystod hanner cyntaf cyffrous - pedwar ohonyn nhw gan yr ymwelwyr, oedd yn ffefrynnau pendant i ennill - a phump wedi'r egwyl, sef tri i'r Ariannin a dau i'r tîm cartref.

Fe ddaeth Louis Rees-Zammit oddi ar y fainc i wneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers dwy flynedd.

Ond roedd yna siom pan fu'n rhaid i'r capten dylanwadol, Jac Morgan, adael y cae ar ôl anafu ysgwydd wrth sgorio trydydd cais Cymru.

Golyga'r canlyniad bod Cymru wedi colli 10 gêm gartref o'r bron.

Cymru yn erbyn Yr ArianninFfynhonnell y llun, PA Media

Aeth yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi saith o funudau yn unig, gan sgorio dau gais o fewn tri munud - y cyntaf gan y prop Pedro Delgado (7).

Fe fanteisiodd Mateo Carreras ar chwarae blêr gan Dan Edwards a Tom Rogers i gicio'r bêl y tu hwnt i amddiffyn Cymru ac i gyfeiriad y maswr, Gerónimo Prisciantelli i'w thirio (10).

Ymatebodd Cymru'n bendant ac yn effeithiol - fe welodd Rogers fwlch yn amddiffyn yr Archentwyr ac fe gasglodd Jac Morgan y bêl cyn dadlwytho'n ardderchog i gyfeiriad Tomos Williams (15) a sgoriodd cais cyntaf Cymru dan arweiniad Tandy.

O fewn dim roedd Dewi Lake (22) hefyd wedi tirio ar ddiwedd symudiad o goc gosb, ac roedd y timau'n gyfartal.

Fe welodd Ben Thomas gerdyn melyn am anelu cic at Pablo Matera. Yn ei absenoldeb fe sgoriodd y Pumas 10 o bwyntiau.

Yn dilyn ceisiau gan y mewnwr Simon Benitez Cruz (38) a'r asgellwr Mateo Carreras, roedd y sgôr ar yr egwyl yn 14-31.

Yr Ariannin sgoriodd cais cyntaf yr ail hanner, diolch i chwarae grymus Prisciantelli a Bautista Delguy a welodd Delguy'n hyrddio dros Tom Rogers i groesi'r llinell (44).

Roedd Ben Thomas wedi dychwelyd i'r maes ar ddechrau'r hanner ond roedd Cymru un dyn yn brin unwaith yn rhagor am gyfnod wedi i Tomos Williams gael cerdyn melyn am herio Prisciantelli oddi ar y bêl.

Roedd yna ochenaid o ryddhad felly pan aeth Jac Morgan dros y llinell (54) wedi i'r Archenwyr ildio cic gosb wrth y lein.

Ond daeth yn amlwg yn gyflym ei fod wedi cael anaf wrth sgorio ac fe drodd gorfoledd i bryder wrth iddo adael y maes am driniaeth.

Cefnau Jac Morgan a dau swyddog meddygol wrth iddo adael y maes wedi anafFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jac Morgan yn gafael ei fraich wrth adael y cae

Roedd yna ymosodiadau gwych, ond aflwyddiannus, gan Dan Edwards a Louis Rees-Zammit, ac roedd yna fflachiadau addawol o hyder gan chwaraewyr Cymru,

Serch hynny, yr ymwelwyr oedd y nesaf i dirio wedi rhyng-gipiad a rhediad o 25 medr a welodd Prisciantelli yn sgorio'i ail gais o'r prynhawn (62).

Llwyddodd Cymru i gau'r bwlch - diolch i gais Blair Murray (73). Roedd Murray ei hun wedi cicio'r bêl ymhellach i hanner yr ymwelwyr ac o'r sgarmes a ddeilliodd o hynny, fe basiodd Tomos Williams y bêl heibio tri chwaraewr a thasg hawdd oedd hi wedyn i Murray dirio.

Yn anffodus i Gymru, doedd yr Archentwyr ddim am orffwys ar eu rhwyfau - sgoriodd Santiago Grondona eu seithfed cais, gan sgorio dros 50 o bwyntiau am y tro cyntaf erioed yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.

Fe fydd Cymru'n wynebu Japan nesaf - yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn nesaf, - cyn herio Seland Newydd a De Affrica cyn diwedd y mis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig