Gwahardd saith nyrs o'u gwaith yn Ysbyty Tywysoges Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae saith nyrs arall wedi cael eu gwahardd o'u gwaith yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi amheuon fod cofnodion wedi eu ffugio.
Mae'n rhan o ymchwiliad ddechreuodd y llynedd yn dilyn honiadau am anghysonderau yng nghofnodion yr ysbyty.
Y llynedd, fe gadarnhaodd Heddlu'n De fod tair nyrs oedd yn gweithio yn yr ysbyty wedi cael eu harestio dan amheuaeth o esgeulustod yn dilyn pryder am ffugio cofnodion.
Fe gafodd y nyrsys hynny eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae ymchwiliad troseddol yn parhau.
Nawr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau bod saith nyrs arall wedi eu gwahardd o'u gwaith.
Mae'r BBC wedi cael ar ddeall bod hyn wedi digwydd beth amser yn ôl, bellach.
Mae'r bwrdd iechyd yn pwysleisio mai arolwg mewnol o gofnodion yr ysbyty arweiniodd at yr ymchwiliad, wedi i'r ysbyty roi gwybod i'r heddlu am y mater.
Fe ychwanegodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd:
"O ganlyniad, fe gafodd tair nyrs eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.
"Fe gafodd saith arall eu gwahardd o'u gwaith dan amheuaeth o ffugio cofnodion.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau ac fe fyddai'n anaddas i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."