Adolygu gofal cleifion hŷn 'ar frys'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi gorchymyn adolygu'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion oedrannus yn ysbytai Cymru, a hynny ar unwaith.

Mae hynny'n dilyn cyhoeddi adroddiad annibynnol fore Mawrth ar y gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r adroddiad - Ymddiried mewn Gofal - gan yr Athro June Andrews a Mark Butler yn nodi nifer o bryderon am ansawdd y gofal a diogelwch cleifion yn y ddau ysbyty, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan yr Athro Drakeford ar ôl i bryderon gael eu codi ynglŷn â'r gofal a roddir i gleifion yn yr ysbytai hyn.

Derbyn yr argymhellion

Mae'n gwneud 18 o argymhellion, gan gynnwys pedwar i Lywodraeth Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hynny yn llawn.

O ganlyniad i'r adroddiad, mae'r Gweinidog Iechyd wedi gorchymyn:

  • Bod angen i'r safonau gofal yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot gael eu gwella ar unwaith;

  • Y bydd cyfres o archwiliadau dirybudd yn cael eu cynnal gan dîm o arbenigwyr ar ran y Gweinidog, i edrych ar safon y gofal a roddir i gleifion oedrannus mewn ysbytai cyffredinol yng Nghymru. Bydd yr archwiliadau hyn yn canolbwyntio ar y ffordd y rhoddir meddyginiaethau i gleifion, ar roi hylif i gleifion, ar y defnydd o dawelyddion yn ystod y nos ac ar y gofal o ran ymataliaeth. Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan yr Athro June Andrews a Syr Ian Carruthers, sydd wedi bod mewn sawl swydd uchel yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys swydd prif weithredwr GIG De Lloegr;

  • Y bydd grŵp gorchwyl newydd, fydd yn cynnwys y Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio, yn arwain y gwaith ar yr archwiliadau ac yn adrodd yn ôl i'r Gweinidog Iechyd.

'Wedi fy syfrdanu'

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Dyw'r adolygiad hwn ddim yn un hawdd i'w ddarllen, a bydd yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n ymwneud â gofal i bobl hŷn yn yr ysbytai hyn.

"Fel Gweinidog Iechyd, rwy'n ymddiheuro'n gwbl ddiffuant i'r unigolion a'r teuluoedd sydd wedi derbyn gofal sydd islaw safon yr hyn y byddent wedi disgwyl ei gael gan Wasanaeth Iechyd Cymru. Mae peth o'r hyn rwy wedi'i ddarllen yn yr adroddiad wedi fy syfrdanu.

"Rwy'n benderfynol na fydd dim byd o'r fath yn cael ei oddef eto yn y ddau ysbyty hyn, yn y bwrdd iechyd hwn nac yn wir yn unman arall yng Nghymru yn y dyfodol."

Bydd pob un o fyrddau iechyd Cymru yn cael pedair wythnos i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion. Bydd disgwyl iddynt gynnal archwiliadau ar unwaith a rhoi sicrhad nad yw'r gofal i gleifion yn y meysydd canlynol yn ddiffygiol:

  • Rhoi meddyginiaethau i gleifion;

  • Sicrhau bod cleifion yn cael digon o hylif;

  • Gorddefnyddio tawelyddion yn ystod y nos;

  • Gofal sylfaenol o ran ymataliaeth.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:

"Dydw i ddim yn credu bod y methiannau sy'n cael eu disgrifio yn yr adroddiad hwn yn gyffredin mewn ysbytai drwy Gymru. Ond rwy'n trefnu bod cyfres o archwiliadau arbennig yn cael eu cynnal mewn ysbytai ledled y wlad i brofi'r safonau gofal ac i leddfu pryderon cleifion.

'Taw ar y mater'

"Fe hoffwn i ddatgan yn glir - er gwaetha'r pryderon y mae'r adroddiad yn eu nodi mewn sawl maes, bod yr adroddiad yn rhoi sylw hefyd i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel enghreifftiau canmoladwy o ofal yn y ddau ysbyty.

"Mae'r adroddiad yn dweud yn hollol glir hefyd nad yw, ac nad oedd, yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ysbytai hyn yn debyg mewn unrhyw ffordd i'r hyn a gafwyd yn Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford.

"Rydyn ni wedi clywed y cyhuddiad hwnnw yn llawer rhy aml - mae'r adroddiad hwn yn rhoi taw ar y mater."