Trafod dyfodol hen ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych
Disgrifiad o’r llun,

Gwariodd y cyngor £930,000 er mwyn rhwystro'r adeilad rhag mynd â'i ben iddo

Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn trafod dyfodol safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych yn ddiweddarach.

Fe fyddan nhw'n trafod adroddiad sy'n nodi bod perchnogion y safle - Freemont Ltd sydd a'u pencadlys ar Ynysoedd y Wyryf - yn gwrthwynebu cynlluniau'r awdurdod i ail-ddatblygu'r safle.

Mae Freemont eisoes wedi gwrthwynebu ymgais gan y cyngor i gyflwyno Gorchymyn Pryniant Gorfodol i safle'r adeilad cofrestredig Gradd II.

Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu talu bil o £930,000 gan y cyngor am waith brys a wnaed ar yr adeilad er mwyn atal yr adeilad rhag mynd â'i ben iddo, gan arwain at ymchwiliad cyhoeddus a fydd yn ailymgynnull ar ddiwedd y mis.

Nawr mae cyfreithwyr Freemont - Bhailok Fielding - wedi mynegi pryder am na fu trafodaeth gyda nhw cyn i'r mater fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

'Elw rhesymol'

Nod cynllun y cyngor yw i warchod yr adeilad hanesyddol drwy alluogi datblygiad ar rannau eraill o'r safle drwy eu gwerthu.

Gallai'r mannau hynny gael eu defnyddio ar gyfer datblygu tai, busnesau neu ddefnydd iechyd a chymunedol.

Ond mae Freemont yn cyhuddo Cyngor Sir Ddinbych o ddibrisio'r safle er mwyn cynorthwyo'r cais am Orchymyn Pryniant Gorfodol, ac nad yw'r cynllun yn caniatáu i'r cwmni wneud "elw rhesymol" ar eu buddsoddiad.

Wrth ymateb i'r cyhuddiad fe ddywedodd swyddogion yr awdurdod y dylai'r datblygwyr gael gwneud elw rhesymol, ond bod ymgynghoriad yr awdurdod ar y mater wedi dilyn yr holl ganllawiau priodol.

'Llywio datblygiad'

Yn yr adroddiad fydd yn cael ei drafod gan gynghorwyr yn ddiweddarach, mae'r swyddogion yn dweud:

"Prif bwrpas cynllun datblygu'r safle yw llywio datblygiad y dyfodol ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, nid i ddibrisio'r tir ar gyfer Gorchymyn Pryniant Gorfodol.

"Gall y datblygiad gael ei wneud gan fenter breifat neu gyhoeddus.

"Er y byddai'n well bod adeiladau cofrestredig yn cael eu cynnal a'u cadw, a'u trwsio ac addasu at ddefnydd newydd heb ddatblygiadau eraill, mae Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn yn realistig nad yw hyn yn debyg o fod yn hyfyw yn ariannol - oherwydd hynny rydym yn derbyn yr egwyddor o alluogi datblygu.

"Fodd bynnag ni ddylai galluogi datblygu niweidio'r asedau treftadaeth - yr adeiladau cofrestredig - yr ydym yn ceisio'u hachub."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol