Methiannau gofal yn 'annerbyniol' medd Comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rochira
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Rochira yn dweud bod angen i fyrddau iechyd wybod yn union beth sy'n digwydd ar y wardiau

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi dweud ei bod hi'n angenrheidiol fod byrddau iechyd yng Nghymru yn gwybod yn union be sy'n digwydd ar wardiau ysbytai'r wlad.

Daeth ei sylwadau ar ôl adroddiad beirniadol o safonau gofal yr henoed mewn dau ysbyty yn y de.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y byddai archwiliadau dirybudd yn cael eu cynnal mewn ysbytai led led Cymru, yn dilyn y feirniadaeth o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn ddigwyddodd.

'Annerbyniol'

Yn ôl Ms Rochira roedd y problemau - oedd wedi mynd rhagddynt am dair blynedd - yn achos o bryder mawr.

Mark Drakeford

"Mae'n ymddangos nad oedd y bwrdd yn gwybod beth oedd yn digwydd yn y wardiau, ac mae hynny'n annerbyniol," meddai wrth BBC Radio Wales.

"Led led Cymru mae byrddau iechyd yn ceisio deall yn well beth sy'n digwydd ar y wardiau, ond dyw trio'n ddigon caled ynddo'i hyn ddim yn ddigon da."

"Mae angen i fyrddau iechyd ofyn y cwestiwn, 'A allai hyn ddigwydd yn ein hysbytai ni?', ac os nad ydynt yn gwybod yr ateb yna mae'n rhaid iddynt i fynd ac ymchwilio."

Archwiliadau

Roedd yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth - Ymddiried mewn Gofal, dolen allanol - yn nodi nifer o bryderon am ansawdd y gofal a diogelwch cleifion yn y ddau ysbyty.

Ymhlith y pryderon oedd staff yn dweud wrth gleifion i fynd i'r toiled yn eu gwelyau eu hunain, anwybodaeth o anghenion dementia ac ymddygiad proffesiynol gwael.

Bydd pob un o fyrddau iechyd Cymru yn cael pedair wythnos i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion. Bydd disgwyl iddynt gynnal archwiliadau ar unwaith a rhoi sicrhad nad yw'r gofal i gleifion yn ddiffygiol.

Mae rhai o'r teuluoedd wnaeth gwyno am y safonau gofal wedi gofyn i aelodau o'r Bwrdd rheoli i ymddiswyddo.

Dywedodd Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, ei fod wedi ei gywilyddio o ddarllen cynnwys yr adroddiad, a'i fod yn ymddiheuro yn llawn am yr hyn ddigwyddodd.

"Rydym wedi newid pethau, dyw'r bobl wnaeth ddim perfformio ddim yn eu swyddi."

Ychwanegodd fod y diffygion wedi digwydd dros sawl blwyddyn.

"Doedd hwn ddim yn sefyllfa debyg i Mid Staffordshire ac fel bwrdd fe wnaethom ymateb i ddiffygion a ddaeth i'n sylw yn fuan."