Cwmni olew a nwy yn creu 48 o swyddi newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 48 o swyddi newydd wedi eu creu yng ngogledd Cymru gan gwmni sydd yn gweithio yn y sector olew a nwy.
Mae Robertson yn cynnig gwasanaeth ar draws y byd ac roedd posibilrwydd y byddai'r cwmni yn symud o Gymru.
CGG, busnes geowyddoniaeth o Ffrainc a ddaeth i reoli Robertson y llynedd. Roedden nhw yn ystyried symud y cwmni am fod cyflwr yr adeiladau yn Llandudno yn wael.
Ond ar ôl derbyn £1m gan Lywodraeth Cymru mae 242 o swyddi wedi eu diogelu yng Nghymru a rhai newydd wedi eu creu.
Bydd Robertson yn symud i Stad Morfa Conwy erbyn diwedd y flwyddyn ac mi fydd y safle yn Llandudno sydd wedi bodoli ers y 70au yn cael ei ail-ddatblygu.
Y bwriad ydy adeiladu swyddfa newydd fel bod y busnes yn medru parhau i fod yn gystadleuol ar lefel rhyngwladol.
Cwmni mawr yn yr ardal
Dywedodd Dr Chris Burgess, Rheolwr Gyfarwyddwr Robertson:
"Mae ein cyfleusterau presennol yn dyddio'n ôl i'r 1970au ac mae angen eu moderneiddio'n sylweddol. Nid yw'r cynllun swyddfa yn Nhyn-y-Coed, adeilad rhestredig yn rhannol, yn addas ar gyfer llawer o'n gwaith ychwaith.
"Nid yw'r cyfleusterau hen ffasiwn hyn yn bodloni'r safonau a ddisgwylir gan CGG, sy'n falch o ddarparu amgylchedd gwaith modern ar gyfer ei staff.
"Y teimlad yw bod angen cyfleusterau newydd i fanteisio i'r eithaf ar y synergeddau rhwng gwasanaethau Robertson a busnesau CGG sydd eisoes yn bodoli."
Yn ôl y Gweinidog dros yr economi, Edwina Hart, mae'r cwmni yn gwneud "cyfraniad sylweddol" gan mai dyma'r cyflogwr sector preifat mwyaf yn Sir Conwy.
Dywedodd hi: "Rwy'n falch ein bod yn gweithio gyda'r cwmni i gynnal ei bresenoldeb yn yr ardal a sicrhau ei ddyfodol hir dymor yng Nghymru wrth gefnogi'r gwaith o greu swyddi newydd gyda'r posibilrwydd o ehangu yn y dyfodol hefyd."