'Codi trethi uwch ar bobl gyfoethog' - Eluned Morgan

- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog wedi galw am godi trethi uwch ar bobl gyfoethog er mwyn ceisio dileu tlodi plant.
Mae Eluned Morgan wedi ysgrifennu'r rhagair i ddogfen lle mae ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol Cymru yn galw am waredu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau penodol.
Mae'r canghellor Rachel Reeves a'r Prif Weinidog Keir Starmer wedi bod o dan bwysau i ddileu'r cap, a gafodd ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr yn 2017.
Mae'n debyg mai dyma fydd un o brif themâu cynhadledd y Blaid Lafur sy'n cychwyn yn Lerpwl ddydd Sadwrn.
'Penderfyniadau beiddgar'
Wrth ysgrifennu'n y ddogfen 'Labour Works: Local Action on Child Poverty', mae Eluned Morgan yn nodi: "Fel y gwnaeth Gordon Brown ddadlau, mae'n amser i wneud penderfyniadau beiddgar - trethi'r rheiny sy'n gallu ei fforddio a rhoi'r arian hwnnw lle dylai fod: yn cefnogi bywydau plant.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes yr un plentyn yn llwgu yn un o wledydd mwyaf cyfoethog y byd."
Mae'r cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, hefyd wedi cyfrannu at y ddogfen.
Mae cyn arweinydd Llafur arall, yr Arglwydd Kinnock, hefyd wedi galw am dreth yn seiliedig ar gyfoeth.

Dywedodd Jane Hutt ei bod yn gobeithio y bydd y gynhadledd yn "trafod y neges yn glir"
Mae ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol Cymru, Jane Hutt, yn galw am waredu'r cap.
Mae'n nodi: "Rydym yn parhau i alw am newid positif mewn polisi nawdd cymdeithasol i daclo tlodi plant, yn enwedig yr ymrwymiad i ddileu'r rheol budd-daliad dau blentyn.
"Byddai hyn yn arbed cannoedd ar filoedd o blant rhag byw mewn tlodi.
"Mae'r dystiolaeth yn glir ac rydym yn gobeithio y bydd y Gynhadledd yn dadlau ac yn trafod y mesur pwysig ac yn annog y Llywodraeth i gefnogi'r newid polisi hwn."
Fe ddywedodd Jane Hutt hefyd fod strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru yn cael ei 'adnewyddu' er mwyn dadansoddi ei effaith.
£3bn i ddileu'r cap
Fe wnaeth Eluned Morgan alw am waredu'r cap fis Mai, ond fe wynebodd feirniadaeth gan Blaid Cymru a ddywedodd ei bod yn ymateb i sefyllfa fregus ei phlaid yn y polau piniwn.
Beth yw ymateb y pleidiau eraill i'r cap?
Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r cap, mae Reform wedi galw am ei ddileu, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau mai trethdalwyr fyddai'n gorfod talu am ei waredu.
Byddai dileu'r cap yn costio tua £3bn ac mae'r Canghellor wedi cael ei hannog i godi treth ar y diwydiant gamblo i dalu amdano.
Mae Morgan yn dadlau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi "defnyddio pob pŵer o fewn ei gallu i wneud gwahaniaeth" gan gyfeirio at brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, rhaglen Dechrau'n Deg i blant bach a chynllun peilot incwm sylfaenol i'r rhai sy'n gadael gofal.
Ond mae ymdrechion gweinidogion Cymru hefyd wedi dod o dan y lach ar ôl i darged i ddod â thlodi plant i ben erbyn 2020 gael ei ddileu yn 2016 a bod cynllun newydd heb dargedau penodol.
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
Mae'r ddogfen, a gafodd ei chyhoeddi brynhawn Sadwrn, wedi ei disgrifio fel 'compendiwm' a gafodd ei awduro gan arweinwyr Llafur ar draws y DU.
Mae'n cynnwys cyfraniadau gan faer Manceinion Andy Burnham a maer Llundain, Sadiq Khan.
Mae disgwyl i adolygiad tlodi plant Llywodraeth y DU i gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf gyda mandad clir i leihau tlodi plant yn ystod oes y senedd hon.
Mae cynhadledd y Blaid Lafur yn cychwyn ddydd Sadwrn yn Lerpwl, gydag adolygiadau barn diweddar yn awgrymu y gallai Llafur ddod yn drydydd pell y tu ôl i Blaid Cymru a Reform yn etholiadau Senedd Cymru flwyddyn nesaf.