Cannoedd mewn gorymdaith i wrthwynebu cynigion Undeb Rygbi Cymru

Llun o'r cefnogwyr yn protestio
  • Cyhoeddwyd

Fe ddaeth cannoedd o gefnogwyr y Scarlets ynghyd mewn gorymdaith ddydd Sadwrn cyn ei gêm agoriadol yn erbyn Munster.

Daw wrth i dynged y rhanbarthau agosáu gydag ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm elit gau ddydd Mawrth.

Cafodd y cyhoedd tan brynhawn ddydd Gwener i roi eu barn ar y cynigion, sy'n cynnwys haneru nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau.

Yn ôl yr Undeb, fe wnaeth dros saith mil o bobl lenwi'r holiadur.

Maen nhw hefyd yn mynnu bod y penderfyniad terfynol heb gael ei wneud, ond mae disgwyl eglurder yn yr hydref.

'Torcalonnus'

Mae Mabon Dafydd wedi bod yn cefnogi'r Scarlets ers iddo fod yn blentyn.

Cyn gwylio gemau ym Mharc y Scarlets, mae'n cofio cefnogi ei rhanbarth ar gae Parc y Strade yng nghanol tref Llanelli.

Dywedodd fod parhau i ddangos ei gefnogaeth yn hollbwysig yn ystod cyfnod ansicr i'r gêm.

"Mae 'mywyd i wedi revolvo rownd y Scarlets, mynd i bob gêm gartref a nifer o'r rhai bant hefyd."

"Mae mor bwysig i'r gymuned yn sicr yma yn Llanelli.

"Bydde fe'n dorcalonnus wir, sai'n gwybod beth fyddai'n 'neud 'da fy hunain i fod yn onest.

"Ma'r Scarlets wedi bwydo'r gymuned am ddegawdau nawr - mae'n rhaid i ni gael rygbi yma."

Mae Mabon yn gwisgo hen grys coch y Scarlets gyda choler wen. Mae ganddo wallt brown ac mae'n gwenu.
Disgrifiad o’r llun,

Byddai colli Scarlets fel un o ranbarthau Cymru yn "dorcalonnus" meddai Mabon

Yn un o drefnwyr yr orymdaith, dywedodd Tomos Davies o Aberhonddu, fod rygbi wir yn "golygu rhywbeth i bobl Cymru".

Dywedodd iddo drefnu'r orymdaith i ddangos "cryfder y gefnogaeth" sydd yn y gorllewin.

Er ei fod yn cydnabod bod angen newid mawr i'r gêm yng Nghymru, dywedodd nid torri i ddau ranbarth yw'r ateb.

"Ma siwd gymaint o bobl wedi dod allan heddiw i gerdded yr holl ffordd o'r hen Parc y Strade i Barc y Scarlets," meddai Tomos.

Byddai colli'r Scarlets fel "colli aelod o'r teulu," ychwanegodd.

"Ry'n ni'n gymuned fach o fewn cymuned yma.

"Oes mae angen newid ond sai'n meddwl bod angen torri'r rhanbarthau.

"Os ni'n torri'r rhanbarth, ni'n torri cysylltiad i'r tîm cenedlaethol".

Mae Tomos Davies yn gwisgo crys rygbi a chap Scarlets.
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Davies yw un o drefnwyr yr orymdaith heddiw

Mae'r cynigion ymhell o fod yn boblogaidd - teimladau sydd i'w clywed ar hyd yr M4.

Clywodd cefnogwyr y Gweilch rybudd gan y capten Jac Morgan – na fydd yn aros os bydd ei rhanbarth yn diflannu.

Yn y brifddinas, mae Caerdydd ar fin dechrau tymor newydd heb brif hyfforddwr parhaol.

Mae'r Dreigiau hefyd wedi gwneud eu safbwynt yn glir – mae'r cynigion yn annerbyniol medden nhw.

Ond poeni am golli'r gymuned, yr hanes a diwylliant mae cefnogwyr y gorllewin.

Ni fydd Judith Tucker o Gaerfyrddin yn parhau i ddilyn rygbi petai ei rhanbarth hi yn cael ei dorri, meddai.

"Ma'r hanes i gyd gyda'r Scarlets.

"Gwedwch chi Scarlets i unrhyw un ac maen nhw'n gwybod yn union o le chi'n dod."

Mae gwallt cara wedi clymu yn'ôl ac mae'n gwenu i'r camera. Mae'n gwisgo crys coch, gwyn a glas tywyll gyda bathodyn y Scarlets.
Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd Cara o Aberteifi i'r orymdaith

Dywedodd Cara ei bod "wedi bod yn cefnogi'r Scarlets ers 'mod i'n fach a pan o'n i'n clywed bod y Scarlets a rygbi Cymru mewn trwbwl, ro'n i moyn dod mas, supportio'r Scarlets a bod tu ôl i'r bois heddiw".

"Ni fel teulu wedi tyfu lan yn cefnogi'r Scarlets - ma' fe'n rhan rili pwysig o'n bywydau ni.

"Ma' fe mynd i fod yn horrendous" petai'r nifer y rhanbarthau yn haneru.

"Mae angen i'r Scarlets fod yma am byth."

Mae'r undeb yn mynnu nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ond mae disgwyl eglurder o ran beth fydd dyfodol rhanbarthau Cymru yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig