Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd

 Liam Woolford, 22 oedFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyn fu farw wedi ei enwi fel Liam Woolford, 22 oed o Borth, Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed yn Rhydyfelin ger Pontypridd yr wythnos hon.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 00:40 fore Mawrth yn dilyn digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin.

Bu farw Liam Woolford, o'r Porth yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei anafu yn y digwyddiad.

Mae Jake Staples, 24, o'r Porth, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio, clwyfo â bwriad, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Ethan Ross, 23, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Abeyshake Karunanithy, 22, o Don-teg, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Jesse Wandera, 30, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i anafu rhywun arall.

Bydd y pedwar yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Sadwrn.