Dechrau gwaith amddiffynfeydd llifogydd Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Glasdir
Disgrifiad o’r llun,

Daeth ymchwiliad i'r canlyniad nad oedd cyflwr yr amddiffynfeydd ddigon da

Bydd gwaith i wella amddiffynfeydd ar stad dai lle'r oedd llifogydd difrifol yn dechrau ddydd Llun.

Ar stad Glasdir yn Rhuthun oedd rhai o'r llifogydd gwaethaf yn yr ardal yn 2012.

Methodd yr amddiffynfeydd pan orlifodd yr afon Clwyd, gan effeithio ar 120 o dai newydd.

Daeth ymchwiliad i'r canlyniad nad oedd cyflwr sgriniau gwarchod ar y stad yn ddigon da.

Ym mis Mawrth, dywedodd y cyngor y byddai gwerth £300,000 o waith yn cael ei gwblhau i wella amddiffynfeydd yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 120 o dai newydd eu heffeithio gan y llifogydd

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Llun, ac mae disgwyl iddo bara am ddeufis.

'Dileu pryderon'

Dywedodd Cynghorydd Sir Ddinbych, David Smith: "Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn dileu unrhyw bryderon y mae trigolion Glasdir yn dal i deimlo ar ôl llifogydd 2012.

"Rydym yn gwybod bod llawer o ddisgwyl wedi bod am hyn, ond roedd nifer o rwystrau y bu'n rhaid eu goresgyn cyn y gallem symud ymlaen."

Cwmni concrid o Ruthun sydd wedi cynhyrchu'r system amddiffyn newydd, gyda'r costau yn cael eu rhannu rhwng y cyngor sir, llywodraeth Cymru a'r datblygwr, Taylor Wimpey.