Cofio gwaith y newyddiadurwr 'dewr' Gareth Jones
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r newyddiadurwr Gareth Jones, a dynnodd sylw'r byd at y newyn enbyd yn yr Wcráin yn ystod y 1930au wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw ei fod "yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol o'r diwedd ar ôl cael ei anwybyddu am 70 mlynedd".
Dywedodd Nigel Colley, ei or-nai, fod yr hanes "fel stori tylwyth teg, daioni yn erbyn drwg, Dafydd yn erbyn Goliath".
Roedd Gareth Jones yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn yr Wcráin, sef yr Holodomor, mewn papurau newydd fel The New York Evening Post, Chicago Daily News, The London Evening Standard, a'r Manchester Guardian.
'Sgŵp rhyfeddol'
Yn ôl Mr Colley roedd yn "sgŵp rhyfeddol" - "sawl erthygl papur newydd sy'n cael eu trafod dros 80 mlynedd yn ddiweddarach?"
Ychwanegodd, "hyd yn oed wyth degawd ar ôl datgeliad Gareth o'r Holodomor, mae'n cael ei ddyfynnu mewn perthynas â'r trafferthion ar hyn o bryd allan yn nwyrain yr Wcráin".
Oherwydd bod Stalin mor benderfynol o weithredu ei Fesur Pum Mlynedd roedd yna newyn mawr yn yr Wcráin. Bu farw rhwng pump a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.
Roedd Gareth, gafodd ei fagu yn Y Barri, yn benderfynol pan ymwelodd â'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.
Yn ôl Mr Colley, mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei ysgogi gan ei fam, Annie Gwen Jones. Roedd hi wedi gweithio am dair blynedd yn yr Wcráin i deulu John Hughes, sylfaenydd dinas Hughesovka.
Cafodd Gareth ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg y Drindod Caergrawnt lle'r oedd yn fyfyriwr ieithoedd disglair. Dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Wcráin.
Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.
'Risg'
Dywedodd ei or-nai, "roedd yn ddewr, yn gwybod ei fod yn cymryd risg. Roedd yn glyfar wrth ddweud pethe braf mewn cardiau post adref - a oedd, fe wyddai, yn cael eu darllen gan swyddogion yn y wlad, ond yn cofnodi'r gwir yn ei ddyddiaduron".
Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn ceisio datgelu troseddau'r Bolshevik yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad, yn arbennig gan Walter Duranty, gohebydd Moscow y New York Times ac enillydd gwobr Pulitzer.
Cafodd ei lofruddio yn 1935, mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu, ym Mongolia wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.
Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Chiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.
Cafodd plac ei ddadorchuddio yn 2006 yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth lle bu Gareth yn fyfyriwr i gofio am ei gyfraniad.
Yn ystod y seremoni, dywedodd llysgennad yr yr Wcráin: "Dylai gael ei weld fel arwr am yr hyn a wnaeth ac am roi ei fywyd mewn perygl."
Mae nifer o gyfrolau wedi eu hysgrifennu amdano erbyn hyn, ac yn 2011 fe wnaeth teulu Gareth Jones gyflwyno ei ddyddiaduron i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Yn y rhaglen 'Y Gohebwyr: Guto Harri' ar S4C mae Guto Harri yn mynd i'r Wcráin, Efrog Newydd, o amgylch Cymru a Llundain i ddilyn hanes bywyd Gareth Jones, a bydd hefyd "yn ceisio dod at wraidd gwirionedd llofruddiaeth ryfedd y gŵr o'r Barri ym Mongolia".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011