Cyhuddo'r Gweinidog Adnoddau Naturiol o fod yn 'llawdrwm'

  • Cyhoeddwyd
Mae'r Circuit of Wales yn gobeithio denu ras MotoGP i Lyn Ebwy yn etholaeth y gweinidogFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cylchffordd Cymru'n gobeithio denu ras MotoGP i Lyn Ebwy yn etholaeth y gweinidog

Mae'r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies wedi cael ei gyhuddo o fod yn "llawdrwm" ar ôl iddo ysgrifennu at swyddogion Adnoddau Naturiol Cymru ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.

Mae'r cynlluniau dadleuol i fuddsoddi £280 miliwn mewn adeiladu'r trac ger Glyn Ebwy wedi ysgogi gwrthwynebiad arbenigwyr a gwleidyddion.

Ar un adeg roedd asiantaeth Adnoddau Naturiol Cymru yn erbyn y cynllun ond yn hwyrach fe ddywedodd swyddogion eu bod yn fwy bodlon ar effaith y prosiect ar yr amgylchedd.

Datgelwyd fod y gweinidog, yn rhinwedd ei waith fel Aelod Cynulliad lleol, wedi ysgrifennu at Adnoddau Naturiol Cymru yn "mynegi pryder am brosesau" yr asiantaeth.

Fe ddaeth y llythyr i'r golwg ar ôl i Gareth Clubb, ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, wneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gan Mr Davies yr hawl i ysgrifennu llythyr ynglŷn â'r mater gan ei fod yn Aelod Cynulliad lleol.

'Marc cwestiwn enfawr'

Ond mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams wedi dweud: "Mae ymddygiad llawdrwm y gweinidog wedi rhoi marc cwestiwn enfawr dros ddyfodol y prosiect.

"Fe ddylai Adnoddau Naturiol Cymru fod yn gwbl annibynnol o'r llywodraeth.

"Ond mae'r ffaith fod Adnoddau Naturiol Cymru wedi newid eu meddwl heb lawer o dystiolaeth newydd yn golygu bod pobl yn cwestiynu annibyniaeth yr asiantaeth."

Hawliodd Ms Williams fod y mater yn tynnu sylw at broblemau ynglŷn â chôd ymddygiad gweinidogion.