Ble Mae'r Merched?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r trefniadau yn prysuro gyda llai na deufis i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gâr ond nid pawb sy'n hapus gyda'r gigs ar faes ieuenctid Maes B. Mae Efa Thomas, gynt o'r band pync Stilletoes ac sydd bellach yn perfformio fel Efa Supertramp, yn anhapus na fydd yna lawer o ferched ar y llwyfan. Bu'n dweud mwy wrth BBC Cymru Fyw:

Mae hi'n warthus bod cyn lleied o ferched yn perfformio ym Maes B yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae angen i ni ofyn pam fod y trefnwyr wedi dewis peidio rhoi llwyfan i gymaint o ferched cyffrous sy'n creu cerddoriaeth Gymraeg. Mae'r pŵer gan Maes B i gyflwyno cerddoriaeth gyfoes Cymraeg i bobl ifanc sy'n mynd i'r Eisteddfod. Efallai mai gigs Maes B ydi'r unig dro yn ystod y flwyddyn y mae nhw'n gwylio bandiau Cymraeg, felly mae'n hollol annerbyniol bod ei line-up mor brin o ferched.

Dydi o ddim yn beth newydd wrth gwrs, mae gigs Cymraeg yn aml yn adlewyrchu'r gymdeithas batriarchaidd 'da ni byw ynddi, ac mae'n ymddangos nad ydi Maes B am herio hynny. Os fysa 'na ddim merched yn creu cerddoriaeth yn y Gymraeg, yna digon teg, does ddim disgwyl i Faes B greu artistiaid allan o nunlle. Ond mewn realiti mae digonedd o ferched talentog a chyffrous yn creu, cynhyrchu a chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd.

Dwi'n falch o weld Gwenno (Saunders) ar y bill; mae hi wrthi yn torri ffiniau yng Nghymru wrth greu cerddoriaeth electronig wych, a chwarae rhan sylfaenol yn rhai o brosiectau diddorol y label Peski. Wrth edrych ar weddill y rhestr, heblaw am gwpwl o fandiau gydag aelodau benywaidd, mae'n edrych braidd fel mai tocenistiaeth llwyr ydi gosod personoliaeth gref fel Gwenno yng nghanol yr holl ddynion. Ond mae'n siŵr nad ydyn nhw wedi rhoi llawer o ystyriaeth i rôl benywod.

Ffynhonnell y llun, Peski
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno, un o'r merched prin fydd yn perfformio ym Maes B eleni

Merched talentog

Mae yna gymaint o artistiaid benywaidd y byddai Maes B wedi medru eu rhoi ar y llwyfan, ond yn lle hynny, fe ddewison nhw lwyth o hogiau mewn bandiau indie, sydd i gyd i'w gweld yn debyg iawn i'w gilydd. Pa fath o argraff mae hyn yn ei roi o gerddoriaeth gyfoes Cymraeg? Mae'n sarhad i'r amrywiaeth o bobl sydd yn dewis ysgrifennu cerddoriaeth yn y Gymraeg.

Ble mae Rufus Mufasa sydd yn rapio yn Gymraeg, ond wastad yn cael ei anwybyddu yng Nghymru er ei bod hi yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr yn Llundain a Southampton? Ble mae Kizzy Crawford sydd yn creu cerddoriaeth hyfryd ac sydd yn cael clod arbennig yng Nghymru a thu hwnt? Ble mae 9Bach sydd wedi bod yn derbyn adolygiadau gwych yng nghylchgronnau cerddorol fel Q a Mojo am eu dehongliad modern o gerddoriaeth werin? Mi fedrwch chi ychwanegu artistiaid fel Clinigol, Vintage Magpie, Georgia Ruth a Casi Wyn ac amryw o fandiau eraill at y rhestr. Mae Maes B wedi ein gadael ni ferched i lawr, wrth anghofio ein bod ni yn hanner y boblogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Casi wyn yn perfformio ar faes carafanau Eisteddfod Dinbych y llynedd

Gwahanol i fechgyn?

Dwi'n credu fod disgwyliadau i ferch ffitio fewn i safonau cymdeithas er mwyn cael eu cymryd o ddifri yn y Sîn Roc Gymraeg. Mae'n rhaid edrych yn ddel, canu am bethau neis a pheidio actio yn rhy wahanol neu allan o'r norm. Dwi'n cofio pan oeddwn i yn 15 oed a newydd sefydlu'r band Stilletoes. Roedden ni yn llawn cyffro ac angerdd ac yn barod i herio'r Cymry Cymraeg trwy chwarae cerddoriaeth pync a rhannu fy naliadau.

Does ddim disgwyl i bawb hoffi pync wrth gwrs, ond roedd yr ymateb gefais i am fy agwedd wrth-sefydliadol yn hynod o nawddoglyd ac yn negyddol iawn, yn enwedig o ystyried fy mod i mor ifanc. Ers hynny mae bandiau (o hogiau) gyda syniadau a steil tebyg wedi canu yn Gymraeg a dydyn nhw ddim yn cael beirniadaeth bersonol ar-lein ac yn y cyfryngau fel wnes i. Mae'r bechgyn yn cael eu galw yn rock and roll neu bad boy - mae pobl yn meddwl bod nhw'n dal yn cŵl!

Dylanwad y Merched

Ar hyd y blynyddoedd yng Nghymru dydi nifer o gerddorion benywaidd dylanwadol ddim wedi cael y sylw haeddiannol. 'Da ni ddim yn eu cofio nhw yn yr un ffordd 'da ni'n cofio rhai o'r dynion oedd yn flaengar yr un pryd a nhw. Mae Pat Morgan wastad wedi sefyll yng nghysgod David R Edwards, er mai hi oedd yn cyd-ysgrifennu cerddoriaeth Datblygu; tra bod Ann Mathews o Y Fflaps yn aml yn cael ei anghofio wrth drafod cerddoriaeth pync Cymraeg. Roedd Fiona Owen yn aelod o fandiau electronig cutting-edge fel Eirin Peryglus a Plant Bach Ofnus. Mae'r artistiad yma ac eraill y gallwn eu henwi wedi cael mwy o gydnabyddiaeth y tu hwnt i Gymru am y prosiectau cyffrous yr oedden nhw'n rhan ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Rhys Mwyn/Recordiau Anhrefn
Disgrifiad o’r llun,

A gafodd merched fel Ann Mathews, lleisydd Y Fflaps, ddigon o glod gan y Sîn Roc Gymraeg?

Amser Newid

Dwi'n meddwl bod angen i Maes B roi rhagor o amser i feddwl am beth a phwy mae nhw'n ei gynrychioli. Fel un o brif ddigwyddiadau yn y calendr cerddoriaeth Cymraeg, mae'n rhaid i'r trefnwyr ddefnyddio'r dylanwad sydd ganddyn nhw o ddifri. Mae angen i'r line-up adlewyrchu'r Gymru amlddiwylliannol rydym yn byw ynddi. Efallai bod hyn yn swnio yn amlwg i rai, ond dydw i ddim yn credu bod Maes B wedi ystyried hyn wrth drefnu'r artistiaid.

Disgrifiad o’r llun,

Noson lwyddiannus arall yn Maes B

Os na ydym ni yn rhoi llwyfan i ferched rŵan, pa siawns sydd am y dyfodol? Pa siawns sydd yna am gyfartaledd? Mae'n rhyfedd i ddyfynnu rhywun o bron i 40 mlynedd yn ôl, ond mae geiriau Poly Styrene yn un o ganeuon y band pync X-Ray Spex yn dal i fod yn berthnasol yng Nghymru heddiw:

"Some people think little girls should be seen and not heard, but I think - Oh Bondage! Up Yours!".

Mae gen i barch mawr i'r merched sydd yn dal i wneud sŵn, peidiwch byth distewi!

Mwy nac un llwyfan - Ymateb Maes B

Fe ofynodd BBC Cymru Fyw i'r Eisteddfod Genedlaethol am ymateb i sylwadau Efa Thomas. Dyma oedd gan Guto Brychan, un o drefnwyr Maes B i'w ddweud:

"Dwi'n cytuno bod e'n siomedig bod cyn lleied o ferched yn perfformio yn Maes B eleni, ac o edrych ar y line up dros y blynyddoedd ma' hi wedi bod yn rwystredigaeth rheolaidd wrth fynd ati i lunio'r rhaglen. Dwi'n cytuno hefyd bod na lawer o ferched talentog yn perfformio yn y Gymraeg ac o ganlyniad mae sicrhau slot iddyn nhw yn rhan pwysig o'm gwaith - ar y cyfan rwy'n teimlo fod rhaglen yr amryw lwyfannau sy'n cynnig cerddoriaeth gyfoes yn yr Eisteddfod eleni yn llwyddo yn hyn o beth.

O ran Maes B, yn anffodus dydi pethe ddim wastad yn troi allan fel fyswn i'n hoffi - petai pawb sy'n cael cynnig chwarae yn cytuno byse'n gwneud fy swydd yn llawer haws! Dydi'r line up terfynol ddim yn adlewyrchiad cywir o'r hyn oedd gennai mewn golwg ar ddechrau'r broses. Bu trafodaeth gyda nifer o'r artisitiad ma' Efa yn ei enwi, naill a'i i berfformio yn Maes B neu ar un o lwyfannau eraill yr Eisteddfod, ond am wahanol resymau ni lwyddwyd i'w cadarnhau.

Ffactor arall i'w hystyried yw'r ffaith mai nid Maes B yw'r unig lwyfan mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ei ddarparu ar gyfer artistiaid cyfoes Cymraeg. Erbyn hyn mae'r prif faes yn cynnig Caffi Maes B, Tŷ Gwerin a Llwyfan y Maes - pob un ohonynt wedi profi'n boblogaidd iawn llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i ymateb - Guto Brychan, trefnydd Maes B

Felly wrth edrych ar le i raglenni artist rhaid ystyried pa lwyfan sydd yn fwyaf priodol ar eu cyfer. Os edrychwn ar artist acwstig fel enghraifft mae llwyfannau'r maes yn aml yn cynnig profiad gwell na pherfformio yn Maes B, o ganlyniad ma' rhai o'r artistiaid ma' Efa wedi eu rhestru wedi cael cynnig slot yno yn hytrach na Maes B.

Gobeithio bod yr esboniad uchod yn taflu rhywfaint o oleuni ar y gwahanol ffactorau 'na'th ddylanwadu llunio line up Maes B eleni.

Mi fydd manylion llawn o amserlenni llwyfannau'r Maes yn cael ei cyhoeddi'n fuan a dwi'n ffyddiog bydd hyn yn dangos bod yr Eisteddfod wedi ceisio sicrhau llwyfan i ystod eang o artisitiad eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn gwych ar gyfer cerddoriaeth Cymraeg gyda chynnydd yn y nifer o albyms gafodd eu rhyddhau a ffrwydriad o fandiau newydd yn dod i'r amlwg led led Cymru.

Mi fydd yr Eisteddfod yn dathlu hyn eleni, nid yn unig yn Maes B ond ar draws maes yr Eisteddfod trwy gydol yr wythnos!"

Ydych chi'n cytuno gyda chwyn Efa Thomas am brinder merched yn perfformio ym Maes B neu, ydych chi'n derbyn dadl Guto Brychan bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig sawl llwyfan i artistaid benywaidd ? Gadewch i ni wybod cymrufyw@bbc.co.uk