Tîm Seiclo Cymru i Gemau'r Gymanwlad wedi ei gyhoeddi
- Cyhoeddwyd
Cymysgedd o seiclwyr profiadol ac ifanc sydd wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gynnwys rhai sydd wedi ennill pencampwriaethau Olympaidd a Byd.
Y bwriad yw gadael Glasgow gydag o leiaf tair medal.
Mae'r garfan o 17 o seiclwyr yn cynnwys y pencampwr Olympaidd Geraint Thomas fydd yn cyrraedd yr Alban wedi tair wythnos galed yn y Tour de France.
Gyda Becky James, sydd wedi bod yn bencampwr y byd dwywaith, mae hyfforddwyr Cymru yn credu bod eu presenoldeb yn cael effaith dylanwadol ar y tîm.
Yn y garfan mae pencampwr y byd mewn tîm, Elinor Barker, yn ogystal ag enillwyr medelau yng Nghwpan y Byd, Jon Mould, Sam Harrison ac Owain Doull yn ogystal â Luke Rowe sydd yn beicio i dîm Sky.
Targed
Meddai Darren Tudor, prif hyfforddwr Cymru: "Mae yna brofiad yn y tîm. Y targed yw tair medal, a gydag ychydig o lwc a seiclo da bydd mwy i'w cael gobeithio. "
"Mae'r presenoldeb Thomas a James yn codi lefel y proffesiynoldeb o gwmpas y tîm. Scott Davies yw aelod ieuengaf yn ein tîm ar y ffyrdd, a Geraint yr hynaf a mwyaf profiadol.
"Cwpl o flynyddoedd yn ôl roedd Scott yn edrych i fyny at y dyn, ac yn sydyn mi fyddan nhw'n cystadlu yn y Gemau Gymanwlad gyda'i gilydd, sydd yn wych."
Ychwanegodd Matt Cosgrove, cyfarwyddwr perfformiad Beicio Cymru: "Rydym wedi dewis tîm sy'n cael ei arwain gan seiclwyr cryf, profiadol sydd wedi cyflawni ar y lefel uchaf o gystadleuaeth ryngwladol.
"Maent yn cael eu cefnogi gan nifer fawr o feicwyr ifanc talentog sydd wedi dangos eu gallu i berfformio ar lwyfan y byd. Rydym yn edrych ymlaen at gystadlu yng Nglasgow."
Trac Merched:
Elinor Barker (Caerdydd); Amy Hill (Casnewydd); Ciara Horne (Kenilworth); Becky James (Y Fenni); Hayley Jones (Port Talbot) ac Amy Roberts (Caerfyrddin).
Ffyrdd Merched:
Elinor Barker (Caerdydd); Amy Hill (Casnewydd); Ciara Horne (Kenilworth); Hayley Jones (Port Talbot) ac Amy Roberts (Caerfyrddin).
Trac Dynion:
Owain Doull (Caerdydd); Sam Harrison (Rhisga); Jon Mould (Casnewydd) a Lewis Oliva (Sir Fynwy).
Ffyrdd Dynion:
Scott Davies (Caerfyrddin); Owain Doull (Caerdydd); Sam Harrison (Rhisga); Jon Mould (Casnewydd); Luke Rowe (Caerdydd) a Geraint Thomas (Caerdydd).
Para-seiclo dynion:
Matt Ellis (Notting) a Ieuan Williams (Caerdydd).
Para-cycling merched:
Rhiannon Henry (Pen-y-Bont ar Ogwr) a Rachel James (Y Fenni).