Ysgolion angen gwarchod merched rhag FGM

  • Cyhoeddwyd
Distressed womanFfynhonnell y llun, SPL

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at brifathrawon yn pwysleisio bod gan ysgolion rôl i chwarae er mwyn gwarchod merched ifanc rhag cael eu horgannau rhywiol wedi eu torri (FGM).

Mae yna brotocol yn bodoli yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd yna ganllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir ynglŷn ag amddiffyn plant.

Mae'r llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar y cyd gan y ddau weinidog yn pwysleisio bod torri organnau rhywiol merched yn gamdriniaeth ac nad oes yna ffordd i'w gyfiawnhau.

"Mae'n hanfodol ein bod ni yn gweld y rhybuddion bod plentyn mewn perygl.

"Mae gan staff ysgol rôl bwysig i'w chwarae er mwyn adnabod dioddefwyr posib ac i warchod merched ifanc rhag FGM."

Mae'r llythyr hefyd yn dweud bod angen i ysgolion fod yn ymwybodol o'r protocol sydd yn bodoli a'u bod nhw'n dysgu am y pwnc a'r peryglon allai godi.

Ymgyrch merch ysgol

Mae torri organnau rhywiol yn anghyfreithlon ym Mhrydain ers 1985 ac mae ffigyrau yn darogan y gallai 24,000 o ferched o dan 15 oed fod mewn perygl ym Mhrydain.

Mae'r driniaeth yn cael ei wneud am resymau sydd ddim yn feddygol ac yn aml yn digwydd i blant rhwng pedair a 10 oed. Weithiau mae'n medru digwydd i fabanod. Mewn rhai gwledydd mae'n cael ei weld fel traddodiad diwylliannol neu grefyddol.

Mae'n gallu achosi problemau iechyd fel cymlethdod wrth eni plentyn, heintiau neu fod merch ddim yn gallu cael plant.

Yn ddiweddar mi ddechreuodd merch ysgol o Fryste, Fahma Mohamed ymgyrch i roi diwedd i FGM. Mae'r ymgyrch wedi cael cefnogaeth gan wleidyddion a'r cyhoedd.

Mae 'na linell gymorth rhad ac am ddim ar gyfer trafod y pwnc. Elusen yr NSPCC sydd wedi ei sefydlu er mwyn cynnig help i ddioddefwyr a'r rhif yw 0800 028 3550.