Mudiad iaith yn gosod pebyll o flaen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod pebyll o flaen y Senedd er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau iaith.
Yn ôl y mudiad, y bwriad ydy lobïo gwleidyddion wrth iddyn nhw fynd i mewn ac allan o'r adeilad.
Mae chwe phabell yno er mwyn cynrychioli'r chwe pholisi iaith maen nhw eisiau i'r llywodraeth fabwysiadu, sydd yn cynnwys addysg Cymraeg i bawb a newidiadau i'r system gynllunio.
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones wneud datganiad brynhawn dydd Mawrth ynglŷn â'r iaith Gymraeg ac mae'r protestwyr yn dweud y byddan nhw yn aros yno tan hynny.
Tua dwsin sydd yno ar y foment.
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yna "gig yn y datganiad ei hunan a bydd e'n dangos ffordd glir a manwl ymlaen ynglyn a'r iaith Gymraeg."
Ddim eisiau sefyllfa fel y Wyddeleg
Dywedodd mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau "bod yr iaith yn parhau, yn enwedig wrth gwrs bod yr iaith yn parhau fel iaith gymunedol - ma hynny'n bwysig dros ben".
Fe ddywedodd o na fyddai o byth eisiau gweld sefyllfa fel sydd wedi digwydd yn Iwerddon gyda nifer bychan o gymunedau yn siarad yr iaith.
Mae'r weithred gyda'r mudiad iaith yn un o gyfres o brotestiadau sydd wedi eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae yna "ddiffyg gweithredu" wedi bod gan y llywodraeth ers i ganlyniadau'r Cyfrifiad gael eu cyhoeddi.
Ond mae'r llywodraeth wedi dweud ei bod yn benderfynol i weld y Gymraeg yn "tyfu" a'i bod wedi cymryd nifer o gamau i amddiffyn y Gymraeg, fel safonau newydd a chanllawiau cynllunio.