Buddsoddiad newydd o £1.6m i'r iaith Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1.6 miliwn yn yr iaith Gymraeg dros gyfnod o ddwy flynedd.

Gwnaeth y datganiad yn y Senedd gan amlinellu polisi ei lywodraeth o ran yr iaith tuag at y dyfodol.

Nod yr hyn gafodd ei gyhoeddi yw ceisio cryfhau lle'r iaith yn yr economi gan roi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith mewn amgylchiadau dydd i ddydd.

Mi fydd £400,000 yn cael ei ddefnyddio i sefydlu prosiect peilot yn Nyffryn Teifi fydd yn ceisio darganfod ffyrdd i wella'r gwasanaeth cyfrwng Cymraeg maen nhw'n ei gynnig.

Bydd canfyddiadau'r gwaith wedyn yn cael eu ddefnyddio er mwyn cyflwyno cynllun ar gyfer Cymru gyfan.

Yn ogystal â hyn mi fydd £1.2 miliwn arall yn cael ei wario ar geisio hybu'r defnydd o'r iaith yn y gymuned - £400,000 eleni a £800,000 o 2015-16 ymlaen.

Mae'r arian yma yn cynnwys £750,000 fydd yn mynd i gefnogi gwaith y Mentrau Iaith - gwaith gafodd ei ddisgrifio gan Mr Jones fel bod yn "hollbwysig".

Ar ben y buddsoddiad ariannol, cafodd canllawiau Tan 20 newydd eu cyhoeddi er mwyn rhoi cyfarwyddiadau manylach i awdurdodau lleol ynglŷn â be' sy'n ddisgwyliedig ohonynt.

Mi gafodd tri chynllun arall eu cyhoeddi hefyd:

  • Newid y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn "sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael ei gefnogi i siarad Cymraeg yn hyderus";

  • Gwella'r ffordd mae'r iaith yn rhan o gynlluniau o fewn addysg cyn ysgol a gofal plant;

  • Ymgyrch newydd i hybu pobl i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith o ddydd i ddydd.

'Gweithio'n galed'

Wrth gyhoeddi'r camau, sydd yn rhan o ddogfen newydd o'r enw Bwrw Mlaen, dywedodd Carwyn Jones: "Mae sylfeini da wedi'u gosod eisoes. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau bod yr iaith yn cael statws swyddogol a fframwaith deddfwriaethol a bydd y Safonau newydd yn adeiladu ar hyn.

"Fe wrandawais i ar y syniadau a gafodd eu mynegi yn y Gynhadledd Fawr ac roeddwn wedi fy mhlesio gyda'r hyn a glywais i.

"Mae angen inni nawr ddatblygu polisïau ymarferol cadarn sy'n seiliedig ar y syniadau a'r dychymyg sydd ar waith ledled Cymru.

"Datganiad polisi drafft yw hwn a dw i'n awyddus i glywed sylwadau ac awgrymiadau oddi wrth bartneriaid ac aelodau o'r cyhoedd cyn inni gyhoeddi'r fersiwn derfynol yn yr Eisteddfod [Genedlaethol].

"Yma, yn y Llywodraeth, rydyn ni'n derbyn ein rhan ni yn yr her ac rydyn ni'n galw ar ein partneriaid ar draws Cymru i wneud yr un peth."

Fe gafodd y datganiad ei groesawu gan y gwrthbleidiau yn y Senedd.

Fe ddywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru fod y datganiad yn un "addawol" ond fod "tipyn mwy o waith i'w wneud".

Ychwanegodd ei fod yn siomedig bod y ddogfen newydd yn un ddrafft sy'n seiliedig ar ymgynghoriad gan ei fod yn credu bod y llywodraeth bellach mewn sefyllfa i weithredu.