Dyn yn euog o lofruddio Craig Maddocks yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Cafodd Craig Maddocks ei ladd yn y Cambrian Vaults yn 2013
Mae Francesco John Prevete wedi ei gael yn euog o lofruddio bocsiwr amatur mewn tafarn yn Wrecsam.
Cafodd Craig Harold Maddocks, 34 o Llai ger Wrecsam, ei drywanu dros 50 o weithiau ym mis Mehefin 2013, a bu farw o'i anafiadau.
Roedd Prevete, 46 o Wrecsam, wedi gwadu trywanu Mr Maddocks yn nhoiledau tafarn y Cambrian Vaults.
Cafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi tair awr a hanner o drafod.
Roedd Mr Maddocks wedi bod mewn perthynas gyda nith Prevete yn y gorffennol, ac roedd ganddo blentyn gyda hi.
Clywodd y llys bod Mr Maddocks a Prevete wedi mynd i'r toiledau i gymryd cocên pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn y llys fel un "cynddeiriog".
Bydd Prevete yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.