£650,000 i wella therapi seicolegol

  • Cyhoeddwyd
llun iechyd meddwl

Ddydd Iau, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford yn cyhoeddi hwb ariannol o £650,000 i wella'r mynediad at therapïau seicolegol i bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.

Fe fydd y cyllid yn helpu i ddarparu therapïau seicolegol - fel therapi gwybyddol ymddygiadol ac ymwybyddiaeth ofalgar - i bobl o bob oed.

Yn ogystal, fe fydd yn cynnwys therapïau seicolegol i gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Fe fydd y buddsoddiad - sy'n cael ei rannu gan y byrddau iechyd - yn datblygu gwaith sydd eisoes wedi'i ddechrau i hyfforddi staff y GIG i wella'u sgiliau a'u cymwyseddau, er mwyn iddyn nhw ddarparu therapïau seicolegol i gleifion yng Nghymru.

'Lleihau perygl ail bwl'

Yn ôl gwaith ymchwil, mae ymyriadau therapïau teulu yn gallu lleihau'r perygl o ail bwl o salwch ar gyfer pobl â seicosis, ac mae therapi ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu lleihau'r perygl o ail bwl o iselder.

Fe ddywedodd yr Athro Drakeford:

"Yng Nghymru, rydyn ni'n anelu at gael gweithlu sy'n meddwl am faterion seicolegol ac sy'n deall ac yn cefnogi pobl i reoli eu hiechyd yn well.

"Mae hynny'n golygu bod angen ffordd o weithio sy'n ymdrin ag agweddau corfforol, cymdeithasol a seicolegol ar iechyd unigolyn...

"Rhaid inni sicrhau bod gan gleifion ddewis gwirioneddol ynglŷn â'r holl opsiynau sydd ar gael o ran triniaethau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

'Ymyriadau costus'

"Bydd sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r gefnogaeth i reoli eu cyflwr yn helpu i atal ail bwl o salwch, a bydd hefyd yn lleihau'r angen am ymyriadau costus yn y dyfodol.

"Byddai hynny'n well i bobl â salwch meddwl, a dyna'r ffordd ddarbodus ymlaen ar gyfer y GIG, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gynildeb ariannol. "

Mae mwy na 30,000 o bobl wedi'u hasesu gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd nifer o'r rhain wedi derbyn therapïau seicolegol.