Albyms Cymraeg gorau 2014: Barn Owain Gruffydd

  • Cyhoeddwyd
1. Plu: Un o fandiau mwyaf addawol ac un o gasgliadau mwyaf annisgwyl y flwyddyn ddiwethaf. Mae albym cyntaf y triawd o Fethel wedi arwain at y cyfle iddyn nhw fod yn rhan o brosiect ‘Gorwelion’. Edrych ymlaen i weld beth fydd gan Plu i’w gynnig i ganu gwerin cyfoes dros y flwyddyn nesaf.
Disgrifiad o’r llun,

1. Plu: Un o fandiau mwyaf addawol ac un o gasgliadau mwyaf annisgwyl y flwyddyn ddiwethaf. Mae albym cyntaf y triawd o Fethel wedi arwain at y cyfle iddyn nhw fod yn rhan o brosiect ‘Gorwelion’. Edrych ymlaen i weld beth fydd gan Plu i’w gynnig i ganu gwerin cyfoes dros y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

2. Yr Ods – Llithro: Un o fy hoff albyms eleni. Mae 'Llithro' yn dangos datblygiad amlwg yn sŵn ac agwedd Yr Ods ers eu albym cyntaf, Troi a Throsi yn 2011. Mae’r sŵn wedi symleiddio, mae pwrpas yn y geiriau, ond dyw’r gallu i sgwennu cân bop dda heb ddiflannu. At hynny, dyma glawr gorau i albym Gymraeg eleni, heb os.

Disgrifiad o’r llun,

3. The Gentle Good – Y Bardd Anfawrol: Prosiect diddorol iawn gan Gareth Bonello sy’n dilyn hanes y bardd, Li Bai. Dylanwadau amlwg i’w clywed o’i daith i Tsieina. Unwaith eto, mae hon yn adlewyrchu gallu Gareth Bonello i gyfansoddi caneuon hyfryd.

Disgrifiad o’r llun,

4. Candelas: Albym cyson sy’n llawn agwedd, cyffro a roc a rôl, sydd hefyd yn gynrychioliad teg o’u setiau byw. Y band mwyaf poblogaidd yn y sîn Roc Gymraeg ar hyn o bryd? Digon posib!

Disgrifiad o’r llun,

5. Gwenan Gibbard - Cerdd Dannau: Mae cerddoriaeth werin wedi cael blwyddyn dda yng Nghymru, a mae Gwenan Gibbard wedi bod yn ffigwr amlwg a phrysur yn yr adfywiad diweddar. Nid yn unig iddi ryddhau ei thrydydd albym unigol, ond mi ymddangosodd yn WOMEX ym mis Hydref, yn ogystal â pherfformio gyda band Cerys Matthews.

Disgrifiad o’r llun,

6. Gildas - Sgwennu Stori: Albym swynol a hawdd gwrando arni, mae Arwel ‘Gildas’ bellach yn sefyll ar ei draed ei hun fel artist, yn hytrach nag fel aelod o Al Lewis Band. Mae Greta Isaac hefyd yn gwneud cyfraniad dylanwadol ar nifer o ganeuon yr albym.

Disgrifiad o’r llun,

7. DnA - Adnabod: Deuawd mam a merch, wnaeth hefyd ymddangos yn ystod WOMEX llynedd, ydi DnA. Bydd Delyth ac Angharad Jenkins yn adnabyddus i rai fel aelodau o fandiau eraill, ond mae albym gyntaf DnA, ‘Adnabod’, yn cyflwyno caneuon gwerin newydd, yn ogystal â rhai o’r hen ffefrynnau traddodiadol.

Disgrifiad o’r llun,

8. Bromas - Byr Dymor: Mae ‘na lot o fandiau wedi eu sefydlu yng Ngorllewin Cymru yn ddiweddar, ac mae Bromas ymysg y mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc. Fel band, mae Bromas yn dynn iawn, ar yr albym ac yn fyw, ac hefyd yn llawn egni – fel y bysach chi’n ddisgwyl gan fand ifanc!

Disgrifiad o’r llun,

9. Alaw - Melody: Triawd gwerinol ydi Alaw a wnaeth ryddhau ‘Melody’ yn ôl ym mis Medi. Albym sydd yn rhoi stamp unigryw y band ar hen alawon Cymreig. Cyfuniad o gitar, fiolin ac acordion yw asgwrn cefn 'Melody', gyda Jamie Smith, o 'Mabon' yn rhan o'r band.

Disgrifiad o’r llun,

10. Llwybr Llaethog - Dub Cymraeg: Albym cyfan o ganeuon dyb gan Kevs a John, gyda nifer o aelodau blaenllaw y Sîn yn ymddangos arni, gan gynnwys Geraint Jarman. Mae Llwybr Llaethog, wrth gwrs, yn perfformio ers blynyddoedd bellach, ond mae safon yr albym newydd yn profi eu bod nhw'n parhau i fod yn boblogaidd ac yn berthnasol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol