Ras gyfnewid i hybu'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae ras gyfnewid ym Mro Ddyfi a Cheredigion ddydd Gwener yn gobeithio rhoi hwb i'r iaith yn yr ardaloedd.
Canolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth oedd man cychwyn Ras yr Iaith cyn teithio drwy Aberystwyth, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi.
Mae'r ras yn dilyn digwyddiadau o'r fath yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg.
Cafodd y baton yn cael ei basio fesul cilomedr.
Fe fydd elw'r ras yn cael ei droi'n grantiau i hybu a chefnogi'r Gymraeg yng Ngheredigion, Bro Ddyfi a Bro Teifi.
Dechreuodd ym Machynlleth am 8.30am, gan orffen yn Aberteifi erbyn 7.30pm, gyda chyngerdd yng nghwmni Dafydd Iwan.
Dywedodd Sïon Jobbins, cadeirydd Ras yr Iaith: "Y pwrpas ydi i gadw'n iach wrth gwrs, ond yn fwy na dim i hybu, hyrwyddo a dathlu'r iaith Gymraeg.
"A ni'n gofyn i glybiau, busnesau ac ysgolion i noddi neu i redeg cilometr mae hwnna'n codi £50, a bydd yr elw hwn wedyn yn mynd yn ôl i fuddsoddi yn yr iaith a bydd pobl yn gallu gwneud cais am grant a bydd hwn yn mynd at bob math o bethau fydd yn hyrwyddo'r iaith yn yr ardal."
Gerallt Williams, Pennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Penweddig yn Aberystwyth a Wyn Moon o Dole fu'n gyfrifol am y baton gafodd ei noddi gan Fentrau Iaith Cymru.
Y tu fewn i'r baton mae cerdd wedi ei chyfansoddi gan y Prifardd o Aberteifi, Ceri Wyn Jones.