Gleision: 'angen am atebion'

  • Cyhoeddwyd
Y Gleision
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Garry Jenkins, 39, Philip Hill, 44, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62

Mae aelod seneddol Castell Nedd, Peter Hain, yn dweud bod cwestiynau'n parhau heb eu hateb ynglŷn â thrychineb glofa'r Gleision, ar ôl i gyn-reolwr a pherchnogion y pwll gael eu canfod yn ddieuog o ddynladdiad.

Daeth yr achos yn erbyn Malcolm Fyfield, cyn reolwr y pwll, a chwmni MNS Mining i ben yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Bu farw Charles Breslin, Philip Hill, Garry Jenkins a David Powell ym mis Medi 2011.

Mae Mr Hain yn mynd i ofyn i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i edrych unwaith yn rhagor a beth ddigwyddodd ar y diwrnod.

Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron amddiffyn eu penderfyniad i ddwyn achos a barodd dri mis.

Dywedodd llefarydd fod y penderfyniad wedi ei gymryd ar ôl ymchwiliad trwyadl.

"Rydym yn gobeithio fod yr achos o leiaf wedi rhai mwy o wybodaeth i'r teuluoedd a'r gymuned leol o'r hyn ddigwyddodd.

"Roedd yn rhaid ateb cwestiynau am reolaeth y pwll ac roedd yn iawn i ofyn i reithgor benderfynu ar y cwestiwn euog neu ddieuog. "

Trwydded

"Ar ôl clywed y dystiolaeth mae'r rheithgor wedi penderfynu na wnaethom brofi'r achos y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Ar sail hynny mae'n rhaid i'r rheithgor roi dyfarniad dieuog ac rydym yn parchu eu penderfyniad."

Dywed Mr Hain ei fod yn parhau i gael gwybod atebion i rai cwestiynau.

"Does yna'r un eglurhad wedi ei roi i pam fod y dynion yn cloddio mewn ardal lle nad oedd trwydded i wneud hynny, gan agosáu at ardal lle'r oedd cronfa ddŵr tan ddaear.

"Rwy'n credu fod y teuluoedd yn haeddu ateb."

Ychwanegodd Mr Hain nad oedd yn cwestiynu penderfyniad y rheithgor a dywedodd fod Mr Fyfield hefyd yn ddioddefwr.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd cyn reolwr y pwll Malcolm Fyfield, a pherchnogion y lofa, MNS Mining Ltd yn ddieuog o ddynladdiad

Yn yr achos llys honnodd yr erlyniad fod y rheolwr a'r cwmni yn ddi-hid o reolau diogelwch.

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd y dystiolaeth yn dangos fod Mr Fyfield yn ddyn gofalus a chydwybodol, a doedd hi dal ddim yn glir lle oedd tarddiad y 650,000 galwyn o ddŵr.

Fe barodd yr achos am bron i dri mis , ond ar ôl ychydig dros awr a chwarter o drafod, penderfynodd y rheithgor nad oedd Mr Fyfield na'r perchnogion yn gyfrifol am y marwolaethau.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams bod yr achos wedi bod yn un anodd i bawb.

Diolchodd i aelodau'r rheithgor am roi sylw manwl i'r holl dystiolaeth yn fanwl dros gyfnod o dri mis.

'Cefnogaeth aruthrol'

Ar ddiwedd yr achos fe ddaeth datganiad ar ran teuluoedd y pedwar fu farw. Dywedodd:

"Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i ni gyd - fel y bu'r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ers i ni golli ein hanwyliaid ym Mhwll y Gleision.

"Rydym yn gweld eisiau Garry, Philip, Charles a David yn fawr iawn. Ni aeth diwrnod heibio heb i ni ddyheu am iddyn nhw fod gyda ni o hyd.

"Bydd digwyddiadau'r 15fed o Fedi 2011 yn aros gyda ni am weddill ein hoes.

"Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith achub, gan gynnwys y Tîm Achub Pyllau Glo a'r holl wirfoddolwyr.

"Rydym wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan y gymuned a swyddogion cyswllt yr heddlu. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu holl garedigrwydd a'u cymorth ar hyd yr amser.

"Gan fod yr achos llys wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym wedi clywed am y tro cyntaf yr hyn ddigwyddodd yn y pwll, gofynnwn am gael llonydd i symud ymlaen â'n bywydau - er na fydd y dynion a gollon ni fyth yn mynd yn angof."

'Cydymdeimlad dwysaf'

Mewn datganiad ar ran Malcolm Fyfield, dywedodd ei gyfreithiwr: "Hoffai Mr Fyfield ddangos ei ddiolchgarwch i'r rheithgor am eu dyfarniad ddoe yn Llys y Goron Abertawe."

Ychwanegodd ei ddiolch i'w deulu a'i ffrindiau am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd diwethaf, a diolchodd i'w dim cyfreithiol.

"Mae Mr Fyfield yn adnabod mai'r peth pwysicaf yw cofio ei bedwar cyd-weithiwr gollodd eu bywydau yn y ddamwain drasig ym Mhwll Glo'r Gleision ar Fedi 15, 2011 ac mae'n gofyn bod parch yn cael ei roi yn y dyfodol."

Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwyr MNS Mining eu bod yn "dymuno mynegi eu cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a chyfeillion y dynion gollodd eu bywydau yn y Gleision.

"Rydym yn aruthrol o falch bod y rheithgor wedi penderfynu nad oedd Malcolm Fyfield nac MNS Mining wedi cyflawni unrhyw drosedd ac nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am y marwolaethau trasig.

"Mae wedi bod yn daith hir a dirdynnol at y pwynt hwn a hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a'n cefnogi drwy'r amseroedd anodd hyn."