Gleision: 'Bydd e gyda fi drwy 'mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Gleision mining victimsFfynhonnell y llun, South wales police
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, David Powell a Charles Breslin

Ar ddydd Iau 15 Medi, 2011, am 09:20 y bore cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lofa'r Gleision yn nghwm Tawe.

Bu'r timau achub wrthi yn ofer am bron i 24 awr yn ceisio dod o hyd i bedwar glöwr oedd yn y pwll pan lenwodd gyda dŵr.

Ond er yr ymdrechion diflino am 08:30 y bore canlynol cyhoeddodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gorff un o'r glowyr.

Yn ystod yr oriau nesaf cafwyd hyd i'r tri arall.

Roedd y pedwar glöwr fu farw, Philip Hill, 44 oed, Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed a Garry Jenkins, 39 oed, yn ddynion lleol.

Trychineb

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Timau achub ym Mhwll y Gleision

Atgofion y teuluoedd

Roedd mab Garry Jenkins, Alex, yn ddisgybl yn Ysgol Ystalyfera , ac mae digwyddiadau 15 Medi yn rhywbeth na allai fyth anghofio.

Roedd mewn gwers Gymraeg ac roedd yn gallu gweld y mynydd o'r ysgol.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Garry Jenkins

Fe sylwodd ar yr hofrenyddion ac roedd yn gwbod yn syth bod rhywbeth o'i le.

"Wedyn daeth mam i'r ysgol, yn dweud fod rhywbeth wedi digwydd lan yn y pwll, a dyna sut nes i ffeinidio mas.

"Oedd y diwrnodau wedyn yn rai caled iawn. O' ni heb gysgu am ddau diwrnod. Roedd gyd o'r teulu gyda'i gilydd yn tŷ mamgu - pawb mewn sioc, pawb mewn dagrau, hyd yn oed aelodau'r teulu oedd yn byw mewn gobaith.

"Roedd pawb gyda'i gilydd (y teulu), roedd hynny'n helpu 'chydig bach.

"Oedd fi yn nghegin mamgu, pawb yn siarad, dweud fod 'chydig bach o obaith, ond yna daeth yr alwad yn dweud eu bod wedi dod o hyd i'r corff cynta.

"Yna wedyn - rhyw ddwy awr - wedyn daeth galwad i ddweud eu bod wedi cael y corff cynta mas, oedd pawb dal yn y gegin a'r corff cynta oedd dad.

"Cyn cael gwybod hynny, roedd rhai o'r teulu dal yn gobeithio fod dad dal yn fyw, ond y cwbl o ni'n gallu meddwl oedd bod dad wedi marw."

"Oedd fi a dad fel ffrindau gorau, mynd mas ar y beic modur neu rygbi, oedd fy nhad yn meddwl lot i mi. Pryd fi'n chwarae rygbi, ryw pum munud cyn y gêm, dwi'n dal yn cael gair gyda dad.

"Bydd e gyda mi trwy fy mywyd."

Disgrifiad,

Gleision: Galar teulu un o'r pedwar fu farw

"Fi ddim wedi bod i'r bedd mwy na dau neu dri o weithiau gwaith, fi'n rhy ypset i fynd lan yno."

Dywedodd Alex fod yr achos yn amser caled ond fod o'n rhoi cyfle i'r teulu ddod i dermau â'r hyn oedd wedi digwydd, ac mae'n gyfle i'r teulu i symud ymlaen.

Oedd Alecs eisiau mynd dan ddaear cyn y ddamwain, ond rwan mae'n dweud "mae'n rhywbeth na fi'n gallu gwneud."

"Pob un yn lico" Charles

Roedd Mavis wedi bod yn briod â'i gwr, Charles Breslin, ers dros 40 mlynedd ers ei bod yn ddeunaw oed.

Mae'n dweud ei bod yn gweld ei golli a'i bod hi'n "dawel iawn hebddo fe."

"Roedd pob un yn lico fe . Roedd pob un yn nabod e."

"Nag o'n i moen iddo fe weithio yn y gwaith glo ond oedd e'n dweud nage fydde fe yno sbel, achos roedd e i fod i reteirio mewn 3 wthnos anyway.

Disgrifiad o’r llun,

Charles Breslin

"Oedd e yn dishgwl mlan i riteirio, i hala amser yn y tŷ achos roedden ni jyst newydd adeiladu'r tŷ.

"O'n i di mynd a'r ci am wac, nag o'n i'n dishgwl ar y TV yn y dydd anyway. ...Dechreuais i roi staen ar y decking... Daeth fy mrawd yng nghyfraith lan i weud bod e'n trapped dan ddaear. Twles i y brwsh yn yr awyr ac aetho fi stret lan i'r ganolfan yn Rhos. "

"Hir oedd yr aros"

Mae'n dweud bod yr aros yn hir, a gan bod ei merch yn anabl, bu'n rhaid iddi fynd yn ôl i'r tŷ i ofalu amdani a disgwyl am ddatblygiadau, dros y ffôn ac ar y teledu.

"Hir oedd yr aros.... Dim ond gweddïo a gobeithio, o'n i yr holl amser, fydden i'n gweld e cyn bo hir.. "

Fe ddaeth y newyddion roedd pawb wedi'i ofni.

"Oedd neb yn erfyn i rhywbeth fel hyn ddigwydd dyddie hyn nawr, yn dife? Ni'n clywed am bethe blynyddoedd nôl, ond nag o'n i'n disgwyl clywed am accident fel hyn yn digwydd eto."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r gymuned leol yn gefn mawr i'r teuluoedd

Fe gafodd ei synnu gan ymateb y gymuned yn lleol ac yn genedlaethol.

"O'n i'n meddwl bod dim community spirit ar ol, ond mae fe. Daeth pob un at ei gilydd, a casglu arian i'r teulu. Ac o'n i'n falch iawn o fe, achos unwaith bod y wages di stopo, na fe, doedd dim yn dod i mewn wedi 'ny... So ro'n i'n ddiolchgar iawn i bob un oedd 'di helpu. "

Roedd yr arian wedi golygu bod modd iddi gadw'r tŷ roedd wedi'i adeiladu gyda'i gŵr.

Mae'n dweud bod cael atebion, yn ystod yr achos llys, yn bwysig iddi.

"Fi yn moen gwbod be oedd wedi digwydd a mae fe di mynd mlan shwt sbel nawr, byddai'n falch i dodi fe tu ôl i ni."

"Mae fe yn bwysig achos gobeithio bydd rhwbeth fel hyn byth yn gallu digwydd eto."

'Person hapus' oedd David

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i'r pedwar corff yn agos i'w gilydd

Mae Lynette Powell wedi disgrifio'i gŵr David, oedd yn 50 oed, fel dyn "hwyl, llawn hwyl" a "doedd dim un gair cas i ddweud amdano".

"Gweithiwr caled. Roedd yn hwyliog ac fe ddaeth â'r teulu i gyd at ei gilydd. Rydym yn ceisio siarad amdano bob dydd."

Mae'n canmol y gymuned am eu cefnogaeth ar y pryd: "Roedd pawb mor dda, mor gefnogol, roedd y gymuned yn dod â bwyd i ni.. roedd pawb yn ffantastig."

Mae'n cofio adeg cyfnod cynta'r ddamwain.

"Roedd yn rhaid i mi fod yn gryf rhag ofn y byddai rhywbeth yn digwydd. Fe benderfynais i fynd adre, ac roedd o'r peth iawn i wneud achos yn fuan wedyn fe gawson ni glywed ei fod wedi mynd. Fe oedd yr ail lowr i fynd. Roedd hi'n ddeg munud i dri, ac wedyn, ar ôl hynny, wel, ... roedden ni fel tae ni wedi rhewi."

Mae Lynette yn dweud ei fod yn mwynhau ei waith: "Roedd yn caru'r gwaith. Gyda'i bengliniau wedi chwyddo, ei freichiau wedi chwyddo, roeddwn i'n arfer rhoi eli drosto a strapo fe lan bob dydd, ac oedd, roedd o'n ei garu."

Mae'n gweld ei golli ac yn teimlo'n chwerw am y sefyllfa.

Dwi'n mynd o' ngo bod o wedi mynd a gadael ni gyd achos roedden ni mor hapus. Ond dwi yn chwerw bod o wedi mynd â gadael fi, achos mi gladdais i o ar ddydd Gwener, a chladdu ei fam, oedd yn dioddef o gancer, ar y dydd Llun canlynol."

Glo yn ei waed

Disgrifiad o’r llun,

Phillip Hill

Dywedodd nith Phillip Hill, Haley Phillips, fod y glo yng ngwaed ei hewythr ac yn rhan annatod o'i fywyd.

"Roedd o wedi bod yn löwr am flynyddoedd, ac yn aelod o dîm achub y pyllau.

"Doedd fy nhad-cu, oedd hefyd yn löwr, ddim am i Phillip fynd yn ôl lawr y pwll.

"Er iddo weithio am gyfnod fel gofalwr iechyd, roedd e wrth ei fodd yn gweithio yn y pwll ac yn ôl yr aeth e."

Dywedodd wrth iddynt nôl ei gar ar ôl y trasiedi, iddynt ddod o hyd i CV ganddo oedd yn rhan o gais am swydd mewn pwll glo arall.

"Dywedodd fod y glo yn ei waed a bod ganddo 20 mlynedd arall i roi i'r diwydiant.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r timau achub wrthi am bron i 24 awr yn ceisio dod o hyd i'r glowyr

"Ond wnaeth y llythyr yna byth gyrraedd y cyflogwr newydd."

Dywedodd Haley fod merch Phillip wedi rhoi genedigaeth i ferch fach yn ddiweddar.

"Mae hi'n torri ei chalon, mae e wedi dod yn ddad-cu ond bydd y ferch fach byth yn ei adnabod."

Dywedodd Haley ei bod wedi mynd i dŷ ei thad-cu, tad Phillip, ar ddiwrnod y ddamwain.

"Roeddwn wedi clywed rhywbeth am ddigwyddiad yn y pwll ond ddim manylion. Yna welais i ddau blismon yn cerdded lan yr hewl ac o'n i'n gwybod fod rhywbeth wedi digwydd."

Aeth hi a rhai o aelodau'r teulu i ganolfan cymunedol y Rhos i aros am newyddion. Ar ol 24 awr, meddai, roeddynt yn dechrau meddwl y gwaetha a cheisio paratoi.

"Ond does dim byd yn gallu eich paratoi chi am rywbeth fel hyn, pan ddaeth y plismon i mewn a chyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i gorff.....na does dim byd yn gallu eich paratoi ar gyfer rhywbeth fel hyn."