Gleision: cais teuluoedd am iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd pedwar o löwyr fu farw pan lifodd 650,000 galwyn o ddŵr i mewn i bwll glo wedi dechrau camau cyfreithiol am iawndal oddi wrth y perchnogion.
Cafwyd MNS Mining yn ddieuog o ddynladdiad corfforaethol a rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn ddieuog o ddynladdiad ddydd Iau.
Bu farw Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50, Philip Hill, 44 a Garry Jenkins, 39, yn y drychineb ym mhwll glo y Gleision ym Medi 2011.
Mae'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r teuluoedd wedi galw am symleiddio'r ddeddf yn sgil yr achos.
Dywedodd cwmni cyfreithwyr Thompsons: "Mae cael dyfarniad euog yn sgil cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol yn anodd iawn gan fod rhaid i'r erlyniad brofi bod penderfyniadau'r rheolwr yn cyfateb i esgeulustod dybryd sy'n faich cyfreithiol anodd iawn.
'Yn rhy hwyr'
"Mae'n rhy hwyr i'r teuluoedd yr ydyn ni'n eu cynrychioli ond mae hwn yn agoriad llygad i'r rheiny sy'n sôn am 'fiwrocratiaeth' ac i'r llywodraeth sydd ynghyd â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi ceisio gwanhau'r ddeddfwriaeth sydd yno i amddiffyn glöwyr."
Ychwanegodd mai'r "gwir yw bod y ddeddf yn y maes hwn yn debygol o fynd yn wannach nag yr oedd pan ddigwyddodd y drychineb yn y Gleision" ac o gofio'r hyn ddigwyddodd i'r pedwar o lowyr "ni all hynny fod yn gywir".
Mae Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, wedi dweud bod cwestiynau'n parhau heb eu hateb wedi'r achos llys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014