Cynllun datblygu stadiwm Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Tai Ceredigion wedi arddangos cynlluniau ar gyfer ailddatblygu stadiwm Coedlan y Parc, cartref tîm pêl droed Aberystwyth.
Y bwriad yw codi eisteddle newydd, 80 o fflatiau a gosod cae artiffisial yn lle'r glaswellt presennol.
Y gymdeithas tai sy'n cael hyd i'r arian ar gyfer y prosiect a fydd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau i'w prynu a'u rhentu.
Nos Fawrth roedd cyfle i'r cyhoedd weld arddangosfa a chlywed am y datblygiad cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn ffurfiol.
Dechreuodd y syniad ar ôl i glwb pêl-droed Aberystwyth ddweud ei fod am newid ei gae o laswellt i un artiffisial 3G.
Yna fe wnaeth y clwb gysylltu gyda'r Gymdeithas Tai ynglŷn ag ehangu'r prosiect.
Derbyn sylwadau
Y nod nawr yw adfywio'r stadiwm gyfan i gynnwys eisteddle mwy, adnoddau cymunedol ac 80 o fflatiau.
Bwriad yr arddangosfa, yn ôl Llyr Edwards, cyfarwyddwr gwasanaethau eiddo Cymdeithas Tai Ceredigion, oedd cael ymateb pobl leol i'r cynllun.
"Yn rhan o'r datblygiad mae yna ganolfan gymunedol ac mae yna ffocws mawr wedi bod ar hwnnw am fod angen canolfan gymunedol.
"A be' 'da ni'n gobeithio derbyn hefyd ydi sylwadau pobl ynglŷn â be' maen nhw'n gobeithio ei gael gan ganolfan o'r fath.
"Hefyd o ran sylwadau ynglŷn â'r cae a'r stand ac adnoddau ynglŷn â'r clwb pêl-droed.
"Ac yn drydydd o ran yr unedau byw, 'da ni yn gofyn i bobl am eu barn am edrychiad yr adeilad ac yn gofyn i bobl ddangos diddordeb ynglŷn â phrynu neu rentu'r unedau."
Mae Cymdeithas Tai Ceredigion yn cwblhau'r gwaith o gael yr holl arian ynghyd i dalu am y prosiect - tua £13 miliwn.
Yna bydd cais cynllunio'n cael ei gyflwyno ym mis Awst ac os yw'n cael ei gymeradwyo fe allai'r gwaith adeiladu ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.
Yn y cyfamser bydd tîm Aberystwyth yn parhau i chware ar laswellt Coedlan y Parc - gan ddechrau gyda'r gêm nesaf yn erbyn Derry City o ogledd Iwerddon yng nghynghrair Ewropa.